Add parallel Print Page Options

Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef. I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi. Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd. Efe a wnaeth fy nghnawd a’m croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn. Efe a adeiladodd i’m herbyn, ac a’m hamgylchodd â bustl ac â blinder. Efe a’m gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm. Efe a gaeodd o’m hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom. Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi. Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau. 10 Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau. 11 Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a’m drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi. 12 Efe a anelodd ei fwa, ac a’m gosododd fel nod i saeth. 13 Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i’m harennau. 14 Gwatwargerdd oeddwn i’m holl bobl, a’u cân ar hyd y dydd. 15 Efe a’m llanwodd â chwerwder; efe a’m meddwodd i â’r wermod. 16 Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a’m trybaeddodd yn y llwch. 17 A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni. 18 A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a’m gobaith oddi wrth yr Arglwydd. 19 Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. 20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. 21 Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.

22 Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. 23 Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. 24 Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. 25 Daionus yw yr Arglwydd i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. 26 Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd. 27 Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid. 28 Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno. 29 Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith. 30 Efe a ddyry ei gern i’r hwn a’i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd. 31 Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr Arglwydd: 32 Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau. 33 Canys nid o’i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion. 34 I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed, 35 I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf, 36 Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater.

37 Pwy a ddywed y bydd dim, heb i’r Arglwydd ei orchymyn? 38 Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da? 39 Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod? 40 Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd. 41 Dyrchafwn ein calonnau a’n dwylo at Dduw yn y nefoedd. 42 Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist. 43 Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist. 44 Ti a’th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd. 45 Ti a’n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl. 46 Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn. 47 Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr. 48 Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl. 49 Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra; 50 Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr Arglwydd o’r nefoedd. 51 Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas. 52 Fy ngelynion gan hela a’m heliasant yn ddiachos, fel aderyn. 53 Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf. 54 Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith.

55 Gelwais ar dy enw di, O Arglwydd, o’r pwll isaf. 56 Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a’m gwaedd. 57 Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna. 58 Ti, O Arglwydd, a ddadleuaist gyda’m henaid: gwaredaist fy einioes. 59 Ti, O Arglwydd, a welaist fy ngham: barn di fy marn i. 60 Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a’u holl amcanion i’m herbyn i. 61 Clywaist eu gwaradwydd, O Arglwydd, a’u holl fwriadau i’m herbyn; 62 Gwefusau y rhai a godant i’m herbyn, a’u myfyrdod i’m herbyn ar hyd y dydd. 63 Edrych ar eu heisteddiad a’u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.

64 Tâl y pwyth iddynt, O Arglwydd, yn ôl gweithred eu dwylo. 65 Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt. 66 Erlid hwynt â digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr Arglwydd.