Galarnad 2
Beibl William Morgan
2 Pa fodd y dug yr Arglwydd gwmwl ar ferch Seion yn ei soriant, ac y bwriodd degwch Israel i lawr o’r nefoedd, ac na chofiodd leithig ei draed yn nydd ei ddigofaint! 2 Yr Arglwydd a lyncodd, heb arbed, holl anheddau Jacob; efe a ddifrododd yn ei ddicter amddiffynfeydd merch Jwda; efe a’u tynnodd hwynt i lawr, ac a ddifwynodd y deyrnas a’i thywysogion. 3 Mewn soriant dicllon y torrodd efe holl gorn Israel: efe a dynnodd ei ddeheulaw yn ei hôl oddi wrth y gelyn; ac yn erbyn Jacob y cyneuodd megis fflam danllyd, yr hon a ddifa o amgylch. 4 Efe a anelodd ei fwa fel gelyn; safodd â’i ddeheulaw fel gwrthwynebwr, ac a laddodd bob dim hyfryd i’r golwg ym mhabell merch Seion: fel tân y tywalltodd efe ei ddigofaint. 5 Yr Arglwydd sydd megis gelyn: efe a lyncodd Israel, efe a lyncodd ei holl balasau hi: efe a ddifwynodd ei hamddiffynfeydd, ac a wnaeth gwynfan a galar yn aml ym merch Jwda. 6 Efe a anrheithiodd ei babell fel gardd; efe a ddinistriodd leoedd ei gymanfa: yr Arglwydd a wnaeth anghofio yn Seion yr uchel ŵyl a’r Saboth, ac yn llidiowgrwydd ei soriant y dirmygodd efe y brenin a’r offeiriad. 7 Yr Arglwydd a wrthododd ei allor, a ffieiddiodd ei gysegr; rhoddodd gaerau ei phalasau hi yn llaw y gelyn: rhoddasant floedd yn nhŷ yr Arglwydd, megis ar ddydd uchel ŵyl. 8 Yr Arglwydd a fwriadodd ddifwyno mur merch Seion; efe a estynnodd linyn, ac nid ataliodd ei law rhag difetha: am hynny y gwnaeth efe i’r rhagfur ac i’r mur alaru; cydlesgasant. 9 Ei phyrth a soddasant i’r ddaear; efe a ddifethodd ac a ddrylliodd ei barrau hi: ei brenin a’i thywysogion ydynt ymysg y cenhedloedd: heb gyfraith y mae; a’i phroffwydi heb gael gweledigaeth gan yr Arglwydd. 10 Henuriaid merch Seion a eisteddant ar lawr, a dawant â sôn; gosodasant lwch ar eu pennau; ymwregysasant â sachliain: gwyryfon Jerwsalem a ostyngasant eu pennau i lawr. 11 Fy llygaid sydd yn pallu gan ddagrau, fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy afu a dywalltwyd ar y ddaear; oherwydd dinistr merch fy mhobl, pan lewygodd y plant a’r rhai yn sugno yn heolydd y ddinas. 12 Hwy a ddywedant wrth eu mamau, Pa le y mae ŷd a gwin? pan lewygent fel yr archolledig yn heolydd y ddinas, pan dywalltent eu heneidiau ym mynwes eu mamau. 13 Pa beth a gymeraf yn dyst i ti? beth a gyffelybaf i ti, O ferch Jerwsalem? beth a gystadlaf â thi, fel y’th ddiddanwyf, O forwyn, merch Seion? canys y mae dy ddinistr yn fawr fel y môr; pwy a’th iachâ di? 14 Dy broffwydi a welsant i ti gelwydd a diflasrwydd; ac ni ddatguddiasant dy anwiredd, i droi ymaith dy gaethiwed: eithr hwy a welsant i ti feichiau celwyddog, ac achosion deol. 15 Y rhai oll a dramwyent y ffordd, a gurent eu dwylo arnat ti; chwibanent, ac ysgydwent eu pennau ar ferch Jerwsalem, gan ddywedyd, Ai dyma y ddinas a alwent yn berffeithrwydd tegwch, yn llawenydd yr holl ddaear? 16 Dy holl elynion a ledasant eu safnau arnat ti; a chwibanasant, ac a ysgyrnygasant ddannedd, ac a ddywedasant, Llyncasom hi: yn ddiau dyma y dydd a ddisgwyliasom ni; ni a’i cawsom, ni a’i gwelsom. 17 Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn a ddychmygodd; ac a gyflawnodd ei air yr hwn a orchmynnodd efe er y dyddiau gynt: efe a ddifrododd, ac nid arbedodd; efe a wnaeth i’r gelyn lawenychu yn dy erbyn di; efe a ddyrchafodd gorn dy wrthwynebwyr di. 18 Eu calon hwynt a waeddodd ar yr Arglwydd, O fur merch Seion, tywallt ddagrau ddydd a nos fel afon; na orffwys, ac na pheidied cannwyll dy lygad. 19 Cyfod, cyhoedda liw nos; yn nechrau yr wyliadwriaeth tywallt dy galon fel dwfr gerbron yr Arglwydd: dyrchafa dy ddwylo ato ef am einioes dy blant, y rhai sydd yn llewygu o newyn ym mhen pob heol.
20 Edrych, Arglwydd, a gwêl i bwy y gwnaethost fel hyn: a fwyty y gwragedd eu ffrwyth eu hun, plant o rychwant o hyd? a leddir yr offeiriad a’r proffwyd yng nghysegr yr Arglwydd? 21 Ieuanc a hen sydd yn gorwedd ar lawr yn yr heolydd: fy morynion a’m gwŷr ieuainc a syrthiasant trwy y cleddyf: ti a’u lleddaist hwynt yn nydd dy soriant, lleddaist hwy heb arbed. 22 Gelwaist, megis ar ddydd uchel ŵyl, fy nychryn o amgylch, fel na ddihangodd ac na adawyd neb yn nydd soriant yr Arglwydd: y gelyn a ddifethodd y rhai a faethais ac a fegais i.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.