
Exodus 24 Beibl William Morgan (BWM)24 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell. 2 Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef. 3 A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd. 4 A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel. 5 Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel; a hwy a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd. 6 A chymerodd Moses hanner y gwaed, ac a’i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor. 7 Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a’i darllenodd lle y clywai’r bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. 8 A chymerodd Moses y gwaed, ac a’i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi, yn ôl yr holl eiriau hyn. 9 Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel. 10 A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder. 11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant Dduw, a bwytasant ac yfasant. 12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fyny ataf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchmynion, y rhai a ysgrifennais, i’w dysgu hwynt. 13 A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw. 14 Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni atoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyda chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued atynt hwy. 15 A Moses a aeth i fyny i’r mynydd; a chwmwl a orchuddiodd y mynydd. 16 A gogoniant yr Arglwydd a arhodd ar fynydd Sinai, a’r cwmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl. 17 A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, yng ngolwg meibion Israel. 18 A Moses a aeth i ganol y cwmwl, ac a aeth i fyny i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
For the best Bible Gateway experience, upgrade to Bible Gateway Plus. For less than the cost of a latte each month, you'll gain access to a vast digital Bible study library and reduced banner ads to minimize distractions from God's Word. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.