Add parallel Print Page Options

Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharo, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac atal ohonot hwynt eto, Wele, llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn. A’r Arglwydd a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel. A gosododd yr Arglwydd amser nodedig, gan ddywedyd, Yfory y gwna’r Arglwydd y peth hyn yn y wlad. A’r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliad yr Eifftiaid; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un. A Pharo a anfonodd; ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharo a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses ac wrth Aaron, Cymerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tua’r nefoedd yng ngŵydd Pharo: Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aifft; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aifft. 10 A hwy a gymerasant ludw y ffwrn, ac a safasant gerbron Pharo: a Moses a’i taenodd tua’r nefoedd; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail. 11 A’r swynwyr ni allent sefyll gerbron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Eifftiaid. 12 A’r Arglwydd a galedodd galon Pharo, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai’r Arglwydd wrth Moses.

13 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. 14 Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear. 15 Oherwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a’th drawaf di a’th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear. 16 Ac yn ddiau er mwyn hyn y’th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy’r holl ddaear. 17 A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith? 18 Wele, mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft, o’r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon. 19 Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a’r y sydd i ti yn y maes: pob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw. 20 Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharo, a yrrodd ei weision a’i anifeiliaid i dai; 21 A’r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd, a adawodd ei weision a’i anifeiliaid yn y maes.

22 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law tua’r nefoedd; fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aifft. 23 A Moses a estynnodd ei wialen tua’r nefoedd: a’r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysg, a’r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr Arglwydd genllysg ar dir yr Aifft. 24 Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymryd yng nghanol y cenllysg, yn flin iawn; yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aifft, er pan ydoedd yn genhedlaeth. 25 A’r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aifft, gwbl a’r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes. 26 Yn unig yng ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.

27 A Pharo a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minnau a’m pobl yn annuwiol. 28 Gweddïwch ar yr Arglwydd (canys digon yw hyn) na byddo taranau Duw na chenllysg; a mi a’ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hwy. 29 A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o’r ddinas mi a ledaf fy nwylo at yr Arglwydd: a’r taranau a beidiant, a’r cenllysg ni bydd mwy; fel y gwypych mai yr Arglwydd biau y ddaear. 30 Ond mi a wn nad wyt ti eto, na’th weision, yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw. 31 A’r llin a’r haidd a gurwyd; canys yr haidd oedd wedi hedeg, a’r llin wedi hadu: 32 A’r gwenith a’r rhyg ni churwyd; oherwydd diweddar oeddynt hwy. 33 A Moses a aeth oddi wrth Pharo allan o’r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo at yr Arglwydd; a’r taranau a’r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear. 34 A phan welodd Pharo beidio o’r glaw, a’r cenllysg, a’r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a’i weision. 35 A chaledwyd calon Pharo, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.