Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
One verse. Every morning. Get the free Verse of the Day email.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
New Bible Gateway. Take the quick tour.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Exodus 40  Beibl William Morgan

40 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod. 3 A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia’r arch â’r wahanlen. 4 Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyllbren, a goleua ei lampau ef. 5 Gosod hefyd allor aur yr arogl‐darth gerbron arch y dystiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl. 6 Dod hefyd allor y poethoffwrm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod. 7 Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a dod ynddi ddwfr. 8 A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa. 9 A chymer olew yr eneiniad, ac eneinia’r tabernacl, a’r hyn oll sydd ynddo, a chysegra ef a’i holl lestri; a sanctaidd fydd. 10 Eneinia hefyd allor y poethoffrwm, a’i holl lestri; a’r allor a gysegri: a hi a fydd yn allor sancteiddiolaf. 11 Eneinia y noe a’i throed, a sancteiddia hi. 12 A dwg Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr. 13 A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac eneinia ef, a sancteiddia ef, i offeiriadu i mi. 14 Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau. 15 Ac eneinia hwynt, megis yr eneiniaist eu tad hwynt, i offeiriadu i mi: felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol, trwy eu cenedlaethau. 16 Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.

17 Felly yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y codwyd y tabernacl. 18 A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau; 19 Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl, ac a osododd do’r babell‐len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

20 Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch. 21 Ac efe a ddug yr arch i’r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22 Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, o’r tu allan i’r wahanlen. 23 Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

24 Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du’r deau. 25 Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

26 Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen. 27 Ac a arogldarthodd arni arogl‐darth peraidd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

28 Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl. 29 Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30 Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi. 31 A Moses, ac Aaron, a’i feibion, a olchasant yno eu dwylo a’u traed. 32 Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 33 Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a’r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.

34 Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl. 35 Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmwl yn aros arni, a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi’r tabernacl. 36 A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynnai meibion Israel i’w holl deithiau. 37 Ac oni chyfodai’r cwmwl, yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai. 38 Canys cwmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, yng ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.

Next
Exodus 39
Lefiticus 1
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway