Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Start your day in Scripture. Get the Verse of the Day by email.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
One verse. Every morning. Sign up.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Exodus 39  Beibl William Morgan

39 Ac o’r sidan glas, a’r porffor, a’r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cysegr: gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses. 2 Ac efe a wnaeth yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd. 3 A gyrasant yr aur yn ddalennau teneuon, ac a’i torasant yn edafedd, i weithio yn y sidan glas, ac yn y porffor, ac yn yr ysgarlad, ac yn y lliain main, yn waith cywraint. 4 Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwr y cydiwyd hi. 5 A gwregys cywraint ei effod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o’r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: megis y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses.

6 A hwy a weithiasant feini onics wedi eu gosod mewn boglynnau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, ag enwau meibion Israel ynddynt. 7 A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

8 Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr effod; o aur, sidan glas, porffor hefyd, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd. 9 Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hyd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg. 10 A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, topas, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf. 11 A’r ail res oedd, carbuncl, saffir, ac adamant. 12 A’r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst. 13 A’r bedwaredd res ydoedd, beryl, onics, a iasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd. 14 A’r meini oedd yn ôl enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ôl y deuddeg llwyth. 15 A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur. 16 A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwr y ddwyfronneg. 17 A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau’r ddwyfronneg. 18 A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn; ac a’u gosodasant ar ysgwyddau yr effod, o’r tu blaen. 19 Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a’u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod, o’r tu mewn. 20 A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a’u gosodasant ar ddau ystlys yr effod, oddi tanodd tua’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod. 21 Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr effod, â llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr effod, fel na ddatodid y ddwyfronneg oddi wrth yr effod; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22 Ac efe a wnaeth fantell yr effod i gyd o sidan glas, yn weadwaith. 23 A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo. 24 A gwnaethant ar odre’r fantell bomgranadau, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, a lliain cyfrodedd. 25 Gwnaethant hefyd glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre’r fantell, o amgylch, ymysg y pomgranadau, 26 Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre’r fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

27 A hwy a wnaethant beisiau o liain main, o weadwaith, i Aaron ac i’w feibion. 28 A meitr o liain main, a chapiau hardd o liain main, a llodrau lliain o liain main cyfrodedd, 29 A gwregys o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30 Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur; ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl: SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD. 31 A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i’w dal hi i fyny ar y meitr; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

32 Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.

33 Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a’i holl ddodrefn, ei bachau, ei hystyllod, ei barrau, a’i cholofnau, a’i morteisiau, 34 A’r to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a’r to o grwyn daearfoch, a’r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio; 35 Arch y dystiolaeth, a’i throsolion, a’r drugareddfa; 36 Y bwrdd hefyd, a’i holl lestri, a’r bara dangos; 37 Y canhwyllbren pur, a’i lampau, a’r lampau i’w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i’r goleuni; 38 A’r allor aur, ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth llysieuog, a chaeadlen drws y babell; 39 Yr allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, ei throsolion, a’i holl lestri; y noe a’i throed; 40 Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a’i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; 41 Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu. 42 Yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith. 43 A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a’i gwnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd, felly y gwnaethent: a Moses a’u bendithiodd hwynt.

Next
Exodus 38
Exodus 40
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway