Add parallel Print Page Options

13 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Cysegra i mi bob cyntaf‐anedig, sef beth bynnag a agoro y groth ymysg meibion Israel, o ddyn ac anifail: eiddof fi yw.

A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o’r Aifft, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwytaer bara lefeinllyd. Heddiw yr ydych chwi yn myned allan, ar y mis Abib.

A phan ddygo’r Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid, yr hon a dyngodd efe wrth dy dadau y rhoddai efe i ti, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl; yna y gwnei y gwasanaeth yma ar y mis hwn. Saith niwrnod y bwytei fara croyw; ac ar y seithfed dydd y bydd gŵyl i’r Arglwydd. Bara croyw a fwyteir saith niwrnod: ac na weler bara lefeinllyd gyda thi; ac na weler gennyt surdoes o fewn dy holl derfynau.

A mynega i’th fab y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Oherwydd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd i mi pan ddeuthum allan o’r Aifft, y gwneir hyn. A bydded i ti yn arwydd ar dy law, ac yn goffadwriaeth rhwng dy lygaid; fel y byddo cyfraith yr Arglwydd yn dy enau: oherwydd â llaw gadarn y dug yr Arglwydd dydi allan o’r Aifft. 10 Am hynny cadw y ddeddf hon, yn ei hamser nodedig, o flwyddyn i flwyddyn.

11 A phan ddygo yr Arglwydd di i wlad y Canaaneaid, megis y tyngodd efe wrthyt, ac wrth dy dadau, a’i rhoddi i ti, 12 Yna y neilltui i’r Arglwydd bob cyntaf‐anedig: a phob cyntaf i anifail a fyddo eiddot ti, y gwrywiaid eiddo yr Arglwydd fyddant. 13 A phob cyntaf i asyn a bryni di ag oen; ac oni phryni di ef, yna torfynygla ef: a phob dyn cyntaf‐anedig o’th feibion a bryni di hefyd.

14 A phan ofynno dy fab ar ôl hyn, gan ddywedyd, Beth yw hyn? yna dywed wrtho, A llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aifft, o dŷ y caethiwed. 15 A phan oedd anodd gan Pharo ein gollwng ni, y lladdodd yr Arglwydd bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntaf‐anedig anifail: am hynny yr ydwyf yn aberthu i’r Arglwydd bob gwryw a agoro y groth; ond pob cyntaf‐anedig o’m meibion a brynaf. 16 A bydded hynny yn arwydd ar dy law, ac yn rhactalau rhwng dy lygaid: canys â llaw gadarn y dug yr Arglwydd ni allan o’r Aifft.

17 A phan ollyngodd Pharo y bobl, nid arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd Duw, Rhag i’r bobl edifarhau pan welant ryfel, a dychwelyd i’r Aifft. 18 Ond Duw a arweiniodd y bobl o amgylch, trwy anialwch y môr coch: ac yn arfogion yr aeth meibion Israel allan o wlad yr Aifft. 19 A Moses a gymerodd esgyrn Joseff gydag ef: oherwydd efe a wnaethai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, Duw a ymwêl â chwi yn ddiau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyda chwi.

20 A hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, yng nghwr yr anialwch. 21 A’r Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt y dydd mewn colofn o niwl, i’w harwain ar y ffordd; a’r nos mewn colofn o dân, i oleuo iddynt: fel y gallent fyned ddydd a nos. 22 Ni thynnodd efe ymaith y golofn niwl y dydd, na’r golofn dân y nos, o flaen y bobl.