Add parallel Print Page Options

Parsandatha hefyd, a Dalffon, ac Aspatha, Poratha hefyd, ac Adalia, ac Aridatha, Parmasta hefyd, ac Arisai, Aridai hefyd, a Bajesatha, 10 Deng mab Haman mab Hammedatha, gwrthwynebwr yr Iddewon, a laddasant hwy: ond nid estynasant eu llaw ar yr anrhaith.

11 Y dwthwn hwnnw nifer y lladdedigion yn Susan y brenhindy a ddaeth gerbron y brenin. 12 A dywedodd y brenin wrth Esther y frenhines, Yr Iddewon a laddasant ac a ddifethasant yn Susan y brenhinllys, bum cant o wŷr, a deng mab Haman; yn y rhan arall o daleithiau y brenin beth a wnaethant hwy? beth gan hynny yw dy ddymuniad? ac fe a roddir i ti; a pheth yw dy ddeisyfiad ymhellach? ac fe a’i gwneir. 13 Yna y dywedodd Esther, O rhyglydda bodd i’r brenin, caniataer yfory i’r Iddewon sydd yn Susan wneuthur yn ôl y gorchymyn heddiw: a chrogant ddeng mab Haman ar y pren. 14 A’r brenin a ddywedodd am wneuthur felly, a’r gorchymyn a roddwyd yn Susan: a hwy a grogasant ddeng mab Haman.

Read full chapter