Add parallel Print Page Options

10 Er hynny Haman a ymataliodd; a phan ddaeth i’w dŷ ei hun, efe a anfonodd, ac a alwodd am ei garedigion, a Seres ei wraig. 11 A Haman a adroddodd iddynt ogoniant ei gyfoeth, ac amldra ei feibion, a’r hyn oll y mawrhasai y brenin ef ynddynt, ac fel y dyrchafasai y brenin ef goruwch y tywysogion a gweision y brenin. 12 A dywedodd Haman hefyd, Ni wahoddodd Esther y frenhines neb gyda’r brenin i’r wledd a wnaethai hi, ond myfi; ac yfory hefyd y’m gwahoddwyd ati hi gyda’r brenin. 13 Ond nid yw hyn oll yn llesau i mi, tra fyddwyf fi yn gweled Mordecai yr Iddew yn eistedd ym mhorth y brenin.

14 Yna y dywedodd Seres ei wraig, a’i holl garedigion wrtho, Paratoer pren o ddeg cufydd a deugain o uchder, a’r bore dywed wrth y brenin am grogi Mordecai arno; yna dos gyda’r brenin i’r wledd yn llawen. A da oedd y peth gerbron Haman, am hynny efe a baratôdd y crocbren.

Read full chapter

13 A Haman a adroddodd i Seres ei wraig, ac i’w holl garedigion, yr hyn oll a ddigwyddasai iddo. Yna ei ddoethion, a Seres ei wraig, a ddywedasant wrtho, Os o had yr Iddewon y mae Mordecai, yr hwn y dechreuaist syrthio o’i flaen, ni orchfygi mohono, ond gan syrthio y syrthi o’i flaen ef. 14 Tra yr oeddynt hwy eto yn ymddiddan ag ef, ystafellyddion y brenin a ddaethant, ac a gyrchasant Haman ar frys i’r wledd a wnaethai Esther.

Read full chapter