Add parallel Print Page Options

Yna y proffwydi, Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido, a broffwydasant i’r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem; yn enw Duw Israel y proffwydasant iddynt. Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo.

Y pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’u cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrthynt; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y muriau hyn? Yna fel hyn y dywedasom wrthynt; Beth yw enwau y gwŷr a adeiladant yr adeiladaeth yma? A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius: ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn.

Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai tywysog y tu yma i’r afon, a Setharbosnai, a’i gyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai oedd o’r tu yma i’r afon, at y brenin Dareius: Anfonasant lythyr ato ef, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo; Pob heddwch i’r brenin Dareius. Bydded hysbys i’r brenin, fyned ohonom ni i dalaith Jwdea, i dŷ y Duw mawr, a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr, a bod yn gosod coed yn ei barwydydd ef; a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a’i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt. Yna y gofynasom i’r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel hyn; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mur yma? 10 Gofynasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr hysbysem i ti, ac fel yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt. 11 A’r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym weision Duw nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a’i hadeiladodd, ac a’i seiliodd ef. 12 Eithr wedi i’n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a’u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a’r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon. 13 Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ Dduw hwn. 14 A llestri tŷ Dduw hefyd o aur ac arian, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor o’r deml yn Jerwsalem, ac a’u dygasai i deml Babilon, y rhai hynny a ddug y brenin Cyrus allan o deml Babilon, a rhoddwyd hwynt i un Sesbassar wrth ei enw, yr hwn a osodasai efe yn dywysog; 15 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer y llestri hyn, dos, dwg hwynt i’r deml yn Jerwsalem, ac adeilader tŷ Dduw yn ei le. 16 Yna y daeth y Sesbassar hwnnw, ac a osododd sylfeini tŷ Dduw yn Jerwsalem. Ac o’r pryd hwnnw hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac nis gorffennwyd ef. 17 Ac yn awr, os da gan y brenin, ceisier yn nhrysordy y brenin yna yn Babilon, a ddarfu i’r brenin Cyrus osod gorchymyn am adeiladu y tŷ Dduw hwn yn Jerwsalem; ac anfoned y brenin ei ewyllys atom am y peth hyn.