Add parallel Print Page Options

64 Ona rwygit y nefoedd, a disgyn, fel y toddai’r mynyddoedd o’th flaen di, Fel pan losgo’r tân greision, y pair y tân i’r dwfr ferwi; i hysbysu dy enw i’th wrthwynebwyr, fel yr ofno’r cenhedloedd rhagot! Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt, y disgynnaist, a’r mynyddoedd a doddasant o’th flaen. Ac erioed ni chlywsant, ni dderbyniasant â chlustiau, ac ni welodd llygad, O Dduw, ond tydi, yr hyn a ddarparodd efe i’r neb a ddisgwyl wrtho. Cyfarfyddi â’r hwn sydd lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a’th gofiant di: wele, ti a ddigiaist, pan bechasom: ynddynt hwy y mae para, a ni a fyddwn cadwedig. Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthiasom ni oll; a’n hanwireddau, megis gwynt, a’n dug ni ymaith. Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein hanwireddau. Ond yn awr, O Arglwydd, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll.

Na ddigia, Arglwydd, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll. 10 Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anialwch; Seion sydd yn ddiffeithwch, a Jerwsalem yn anghyfannedd. 11 Tŷ ein sancteiddrwydd a’n harddwch ni, lle y moliannai ein tadau dydi, a losgwyd â thân; a’n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith. 12 A ymateli di, Arglwydd, wrth y pethau hyn? a dewi di, ac a gystuddi di ni yn ddirfawr?