Add parallel Print Page Options

58 Llefa â’th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel utgorn, a mynega i’m pobl eu camwedd, a’u pechodau i dŷ Jacob. Eto beunydd y’m ceisiant, ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd, fel cenedl a wnelai gyfiawnder, ac ni wrthodai farnedigaeth ei Duw: gofynnant i mi farnedigaethau cyfiawnder, ewyllysiant nesáu at Dduw.

Paham, meddant, yr ymprydiasom, ac nis gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac nis gwybuost? Wele, yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd, ac yn mynnu eich holl ddyledion. Wele, i ymryson a chynnen yr ymprydiwch, ac i daro â dwrn anwiredd: nac ymprydiwch fel y dydd hwn, i beri clywed eich llais yn yr uchelder. Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? ai crymu ei ben fel brwynen ydyw, a thaenu sachliain a lludw dano? ai hyn a elwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr Arglwydd? Onid dyma yr ympryd a ddewisais? datod rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri ohonoch bob iau? Onid torri dy fara i’r newynog, a dwyn ohonot y crwydraid i dŷ? a phan welych y noeth, ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun?

Yna y tyr dy oleuni allan fel y wawr, a’th iechyd a dardda yn fuan: a’th gyfiawnder a â o’th flaen; gogoniant yr Arglwydd a’th ddilyn. Yna y gelwi, a’r Arglwydd a etyb; y gwaeddi, ac efe a ddywed, Wele fi. Os bwri o’th fysg yr iau, estyn bys, a dywedyd oferedd; 10 Os tynni allan dy enaid i’r newynog, a diwallu yr enaid cystuddiedig: yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch, a’th dywyllwch fydd fel hanner dydd: 11 A’r Arglwydd a’th arwain yn wastad, ac a ddiwalla dy enaid ar sychder, ac a wna dy esgyrn yn freision: a thi a fyddi fel gardd wedi ei dyfrhau, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon ni phalla ei dyfroedd. 12 A’r rhai a fyddant ohonot ti a adeiladant yr hen ddiffeithleoedd; ti a gyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth: a thi a elwir yn gaewr yr adwy, yn gyweiriwr llwybrau i gyfanheddu ynddynt.

13 O throi dy droed oddi wrth y Saboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd; a galw y Saboth yn hyfrydwch, sanct yr Arglwydd yn ogoneddus; a’i anrhydeddu ef, heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun: 14 Yna yr ymhyfrydi yn yr Arglwydd, ac mi a wnaf i ti farchogaeth ar uchelfeydd y ddaear, ac a’th borthaf ag etifeddiaeth Jacob dy dad: canys genau yr Arglwydd a’i llefarodd.