Add parallel Print Page Options

57 Darfu am y cyfiawn, ac ni esyd neb at ei galon; a’r gwŷr trugarog a gymerir ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith. Efe a â i dangnefedd: hwy a orffwysant yn eu hystafelloedd, sef pob un a rodia yn ei uniondeb.

Nesewch yma, meibion yr hudoles, had y godinebus a’r butain. Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi? Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog, gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau. Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran; hwynt‐hwy yw dy gwtws: iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod‐offrwm, ac yr offrymaist fwyd‐offrwm. Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn? Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely: dringaist hefyd yno i aberthu aberth. Yng nghil y drysau hefyd a’r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth: canys ymddinoethaist i arall heb fy llaw i, a dringaist; helaethaist dy wely, ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist. Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint, ac amlheaist dy beraroglau: anfonaist hefyd dy genhadau i bell, ac ymostyngaist hyd uffern. 10 Ym maint dy ffordd yr ymflinaist; ac ni ddywedaist, Nid oes obaith: cefaist fywyd dy law; am hynny ni chlefychaist. 11 Pwy hefyd a arswydaist ac a ofnaist, fel y dywedaist gelwydd, ac na chofiaist fi, ac nad ystyriaist yn dy galon? oni thewais i â sôn er ys talm, a thithau heb fy ofni? 12 Myfi a fynegaf dy gyfiawnder, a’th weithredoedd: canys ni wnânt i ti les.

13 Pan waeddech, gwareded dy gynulleidfaoedd di: eithr y gwynt a’u dwg hwynt ymaith oll; oferedd a’u cymer hwynt: ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir, ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd. 14 Ac efe a ddywed, Palmentwch, palmentwch, paratowch y ffordd, cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl. 15 Canys fel hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig. 16 Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i, a’r eneidiau a wneuthum i. 17 Am anwiredd ei gybydd‐dod ef y digiais, ac y trewais ef: ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon. 18 Ei ffyrdd a welais, a mi a’i hiachâf ef: tywysaf ef hefyd, ac adferaf gysur iddo, ac i’w alarwyr. 19 Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr Arglwydd: a mi a’i hiachâf ef. 20 Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid. 21 Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, i’r rhai annuwiol.