
Eseia 26 Beibl William Morgan (BWM)26 Ydydd hwnnw y cenir y gân hon yn nhir Jwda: Dinas gadarn sydd i ni; Duw a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur. 2 Agorwch y pyrth, fel y dêl y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wirionedd. 3 Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfryd arnat ti; am ei fod yn ymddiried ynot. 4 Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth; oherwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol. 5 Canys efe a ostwng breswylwyr yr uchelder; tref uchel a ostwng efe: efe a’i darostwng hi i’r llawr, ac a’i bwrw hi i’r llwch. 6 Troed a’i sathr hi, sef traed y trueiniaid, a chamre’r tlodion. 7 Uniondeb yw llwybr y cyfiawn; tydi yr uniawn wyt yn pwyso ffordd y cyfiawn. 8 Ar lwybr dy farnedigaethau hefyd y’th ddisgwyliasom, Arglwydd; dymuniad ein henaid sydd at dy enw, ac at dy goffadwriaeth. 9 A’m henaid y’th ddymunais liw nos; â’m hysbryd hefyd o’m mewn y’th foregeisiaf: canys preswylwyr y byd a ddysgant gyfiawnder, pan fyddo dy farnedigaethau ar y ddaear. 10 Gwneler cymwynas i’r annuwiol, eto ni ddysg efe gyfiawnder; yn nhir uniondeb y gwna ar gam, ac ni wêl uchelder yr Arglwydd. 11 Ni welant, Arglwydd, pan ddyrchafer dy law: eithr cânt weled, a chywilyddiant am eu heiddigedd wrth y bobl; ie, tân dy elynion a’u hysa hwynt. 12 Arglwydd, ti a drefni i ni heddwch: canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni. 13 O Arglwydd ein Duw, arglwyddi eraill heb dy law di a arglwyddiaethasant arnom ni; yn unig trwot ti y coffawn dy enw. 14 Meirw ydynt, ni byddant fyw; ymadawsant, ni chyfodant; am hynny y gofwyaist a difethaist hwynt, dinistriaist hefyd bob coffa amdanynt. 15 Ychwanegaist ar y genedl, O Arglwydd, ychwanegaist ar y genedl; ti a ogoneddwyd; ti a’i symudasit ymhell i holl gyrrau y ddaear. 16 Mewn adfyd, Arglwydd, yr ymwelsant â thi; tywalltasant weddi pan oedd dy gosbedigaeth arnynt. 17 Fel y gofidia ac y gwaedda gwraig feichiog dan ei gwewyr, pan fyddo agos i esgor; felly yr oeddem o’th flaen di, Arglwydd. 18 Beichiogasom, gofidiasom, oeddem fel ped esgorem ar wynt; ni wnaethom ymwared ar y ddaear, a phreswylwyr y byd ni syrthiasant. 19 Dy feirw a fyddant byw, fel fy nghorff i yr atgyfodant. Deffrowch a chenwch, breswylwyr y llwch: canys dy wlith sydd fel gwlith llysiau, a’r ddaear a fwrw y meirw allan. 20 Tyred, fy mhobl, dos i’th ystafelloedd, a chae dy ddrysau arnat: llecha megis ennyd bach, hyd onid elo y llid heibio. 21 Canys wele yr Arglwydd yn dyfod allan o’i fangre, i ymweled ag anwiredd preswylwyr y ddaear: a’r ddaear a ddatguddia ei gwaed, ac ni chuddia mwyach ei lladdedigion.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to choose a monthly or yearly subscription, and then enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Congratulations on your Bible Gateway account!
As an account holder, you can highlight Bible verses, mark your favorites, and take notes. Over the next few days, you’ll receive a few email tutorials on how to get the most out of your account.
For now, consider improving your experience even more by upgrading to Bible Gateway Plus! With Bible Gateway Plus, you gain instant access to a digital Bible study library, including complete notes from resources like the NIV Study Bible, the NKJV MacArthur Study Bible, and the abridged Expositor's Bible Commentary. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.