Add parallel Print Page Options

Eto ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid; megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Sabulon a thir Nafftali, ac wedi hynny yn ddwysach y cystuddiodd hi wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, yn Galilea y cenhedloedd. Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr: y rhai sydd yn aros yn nhir cysgod angau y llewyrchodd goleuni arnynt. Amlheaist y genhedlaeth, ni chwanegaist lawenydd; llawenychasant ger dy fron megis y llawenydd amser cynhaeaf, ac megis y llawenychant wrth rannu ysbail. Canys drylliaist iau ei faich ef, a ffon ei ysgwydd ef, gwialen ei orthrymwr, megis yn nydd Midian. Canys pob cad y rhyfelwr sydd mewn trwst, a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed; ond bydd hwn trwy losgiad a chynnud tân. Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. Ar helaethrwydd ei lywodraeth a’i dangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth ef, i’w threfnu hi, ac i’w chadarnhau â barn ac â chyfiawnder, o’r pryd hwn, a hyd byth. Sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.

Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob; ac efe a syrthiodd ar Israel. A’r holl bobl a wybydd, sef Effraim a thrigiannydd Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon, 10 Y priddfeini a syrthiasant, ond â cherrig nadd yr adeiladwn: y sycamorwydd a dorrwyd, ond ni a’u newidiwn yn gedrwydd. 11 Am hynny yr Arglwydd a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef, ac a gysyllta ei elynion ef ynghyd; 12 Y Syriaid o’r blaen, a’r Philistiaid hefyd o’r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.

13 A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u trawodd, ac ni cheisiant Arglwydd y lluoedd. 14 Am hynny y tyr yr Arglwydd oddi wrth Israel ben a chynffon, cangen a brwynen, yn yr un dydd. 15 Yr henwr a’r anrhydeddus yw y pen: a’r proffwyd sydd yn dysgu celwydd, efe yw y gynffon. 16 Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni, a llyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt. 17 Am hynny nid ymlawenha yr Arglwydd yn eu gwŷr ieuainc hwy, ac wrth eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia: canys pob un ohonynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.

18 Oherwydd anwiredd a lysg fel tân; y mieri a’r drain a ysa efe, ac a gynnau yn nrysni y coed; a hwy a ddyrchafant fel ymddyrchafiad mwg. 19 Gan ddigofaint Arglwydd y lluoedd y tywylla y ddaear, ac y bydd y bobl fel ymborth tân: nid eiriach neb ei frawd. 20 Ac efe a gipia ar y llaw ddeau, ac a newyna; bwyty hefyd ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun: 21 Manasse, Effraim; ac Effraim, Manasse: hwythau ynghyd yn erbyn Jwda. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.