Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Welcome to the new Bible Gateway. Take a quick tour and see what’s new.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
We’ve made some updates. Have feedback?
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Eseia 43  Beibl William Morgan

43 Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Greawdwr di, Jacob, a’th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt. 2 Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tân, ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat. 3 Canys myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat. 4 Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y’th ogoneddwyd, a mi a’th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di. 5 Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf. 6 Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a’m merched o eithaf y ddaear; 7 Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i’m gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.

8 Dwg allan y bobl ddall sydd â llygaid iddynt, a’r byddariaid sydd â chlustiau iddynt. 9 Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o’r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawnhaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw. 10 Fy nhystion i ydych chwi, medd yr Arglwydd, a’m gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o’m blaen nid oedd Duw wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl. 11 Myfi, myfi yw yr Arglwydd; ac nid oes geidwad ond myfi. 12 Myfi a fynegais, ac a achubais, ac a ddangosais, pryd nad oedd duw dieithr yn eich mysg: am hynny chwi ydych fy nhystion, medd yr Arglwydd, mai myfi sydd Dduw. 13 Ie, cyn bod dydd yr ydwyf fi; ac nid oes a wared o’m llaw: gwnaf, a phwy a’i lluddia?

14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, eich Gwaredydd chwi, Sanct Israel: Er eich mwyn chwi yr anfonais i Babilon, ac y tynnais i lawr eu holl benaduriaid, a’r Caldeaid, sydd â’u bloedd mewn llongau. 15 Myfi yr Arglwydd yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin chwi. 16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a wna ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion; 17 Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a’r march, y llu a’r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y diffoddasant.

18 Na chofiwch y pethau o’r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt. 19 Wele fi yn gwneuthur peth newydd: yr awr hon y dechrau; oni chewch ei wybod? Gwnaf ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. 20 Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a’m gogoneddant; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch, a’r afonydd yn y diffeithwch, i roddi diod i’m pobl, fy newisedig. 21 Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant.

22 Eithr ni elwaist arnaf, Jacob; ond blinaist arnaf, Israel. 23 Ni ddygaist i mi filod dy offrymau poeth, ac ni’m hanrhydeddaist â’th ebyrth: ni pherais i ti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni’th flinais ag arogl‐darth. 24 Ni phrynaist i mi galamus ag arian, ac ni’m llenwaist â braster dy ebyrth: eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu â’th bechodau, blinaist fi â’th anwireddau. 25 Myfi, myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau. 26 Dwg ar gof i mi, cydymddadleuwn: adrodd di, fel y’th gyfiawnhaer. 27 Dy dad cyntaf a bechodd, a’th athrawon a wnaethant gamwedd i’m herbyn. 28 Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr, ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd‐beth, ac Israel yn waradwydd.

Next
Eseia 42
Eseia 44
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway