Add parallel Print Page Options

41 Distewch, ynysoedd, ger fy mron; adnewydded y cenhedloedd eu nerth: deuant yn nes, yna llefarant; cyd-nesawn i farn. Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain, a’i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o’i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a’u rhoddodd hwynt fel llwch i’w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i’w fwa ef. Y mae efe yn eu herlid hwynt, ac yn myned yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe â’i draed. Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o’r dechreuad? Myfi yr Arglwydd y cyntaf, myfi hefyd fydd gyda’r diwethaf. Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasant; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant, a nesasant, ac a ddaethant. Pob un a gynorthwyodd ei gymydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, Ymgryfha. Felly y saer a gysurodd yr eurych, a’r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i’w asio; ac efe a’i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir. Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd. Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni’th wrthodais.

10 Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy Dduw: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di â deheulaw fy nghyfiawnder. 11 Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir. 12 Ti a’u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant â thi: y gwŷr a ryfelant â thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim. 13 Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a’th gynorthwyaf. 14 Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a’th gynorthwyaf, medd yr Arglwydd, a’th Waredydd, Sanct Israel. 15 Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg. 16 Nithi hwynt, a’r gwynt a’u dwg ymaith, a’r corwynt a’u gwasgar hwynt: a thi a lawenychi yn yr Arglwydd, yn Sanct Israel y gorfoleddi. 17 Pan geisio y trueiniaid a’r tlodion ddwfr, ac nis cânt, pan ballo eu tafod o syched, myfi yr Arglwydd a’u gwrandawaf hwynt, myfi Duw Israel nis gadawaf hwynt. 18 Agoraf afonydd ar leoedd uchel, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd: gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr, a’r crastir yn ffrydiau dyfroedd. 19 Gosodaf yn yr anialwch y cedrwydd, sita, myrtwydd, ac olewydd; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd, a’r pren bocs ynghyd; 20 Fel y gwelont, ac y gwybyddont, ac yr ystyriont, ac y deallont ynghyd, mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn, a Sanct Israel a’i creodd. 21 Deuwch yn nes â’ch cwyn, medd yr Arglwydd; dygwch eich rhesymau cadarnaf, medd brenin Jacob. 22 Dygant hwynt allan, a mynegant i ni y pethau a ddigwyddant: mynegwch y pethau gynt, beth ydynt, fel yr ystyriom, ac y gwypom eu diwedd hwynt; neu traethwch i ni y pethau a ddaw. 23 Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, fel y gwypom mai duwiau ydych chwi; gwnewch hefyd dda neu ddrwg, fel y synno arnom, ac y gwelom ynghyd. 24 Wele, peth heb ddim ydych chwi, a’ch gwaith sydd ddiddim: ffiaidd yw y gŵr a’ch dewiso chwi. 25 Cyfodais un o’r gogledd, ac efe a ddaw; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai, ac fel y sathr crochenydd bridd. 26 Pwy a fynegodd o’r dechreuad, fel y gwybyddom? ac ymlaen llaw, fel y dywedom, Cyfiawn yw? nid oes a fynega, nid oes a draetha chwaith, ac nid oes a glyw eich ymadroddion. 27 Y cyntaf a ddywed wrth Seion, Wele, wele hwynt; rhoddaf hefyd efengylwr i Jerwsalem. 28 Canys edrychais, ac nid oedd neb, ie, yn eu plith, ac nid oedd gynghorwr, pan ofynnais iddynt, a fedrai ateb gair. 29 Wele, hwynt oll ydynt wagedd, a’u gweithredoedd yn ddiddim: gwynt a gwagedd yw eu tawdd‐ddelwau.