Add parallel Print Page Options

31 Gwae y rhai a ddisgynnant i’r Aifft am gynhorthwy, ac a ymddiriedant mewn meirch, ac a hyderant ar gerbydau, am eu bod yn aml; ac ar wŷr meirch, am eu bod yn nerthol iawn: ond nid edrychant am Sanct Israel, ac ni cheisiant yr Arglwydd. Eto y mae efe yn ddoeth, ac a ddaw â chosbedigaeth, ac ni eilw ei air yn ôl; eithr cyfyd yn erbyn tŷ y rhai drygionus, ac yn erbyn cynhorthwy y rhai a weithredant anwiredd. Yr Eifftiaid hefyd ydynt ddynion, ac nid Duw; a’u meirch yn gnawd, ac nid yn ysbryd. Pan estynno yr Arglwydd ei law, yna y syrth y cynorthwywr, ac y cwymp y cynorthwyedig, a hwynt oll a gydballant. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Megis y rhua hen lew a’r llew ieuanc ar ei ysglyfaeth, yr hwn, er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbyn, ni ddychryn rhag eu llef hwynt, ac nid ymostwng er eu twrf hwynt: felly y disgyn Arglwydd y lluoedd i ryfela dros fynydd Seion, a thros ei fryn ef. Megis adar yn ehedeg, felly yr amddiffyn Arglwydd y lluoedd Jerwsalem; gan amddiffyn a gwared, gan basio heibio ac achub.

Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho. Oherwydd yn y dydd hwnnw gwrthodant bob un ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaeth eich dwylo eich hun yn bechod i chwi.

A’r Asyriad a syrth trwy gleddyf, nid eiddo gŵr grymus; a chleddyf, nid eiddo dyn gwael, a’i difa ef: ac efe a ffy rhag y cleddyf, a’i wŷr ieuainc a fyddant dan dreth. Ac efe a â i’w graig rhag ofn; a’i dywysogion a ofnant rhag y faner, medd yr Arglwydd, yr hwn y mae ei dân yn Seion, a’i ffwrn yn Jerwsalem.