Add parallel Print Page Options

Canys wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, a dynn ymaith o Jerwsalem, ac o Jwda, y gynhaliaeth a’r ffon, holl gynhaliaeth bara, a holl gynhaliaeth dwfr, Y cadarn, a’r rhyfelwr, y brawdwr, a’r proffwyd, y synhwyrol, a’r henwr, Y tywysog deg a deugain, a’r anrhydeddus, a’r cynghorwr, a’r crefftwr celfydd, a’r areithiwr huawdl. A rhoddaf blant yn dywysogion iddynt, a bechgyn a arglwyddiaetha arnynt. A’r bobl a orthrymir y naill gan y llall, a phob un gan ei gymydog: y bachgen yn erbyn yr henwr, a’r gwael yn erbyn yr anrhydeddus, a ymfalchïa. Pan ymaflo gŵr yn ei frawd o dŷ ei dad, gan ddywedyd, Y mae dillad gennyt, bydd dywysog i ni; a bydded y cwymp hwn dan dy law di: Yntau a dwng yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ni byddaf iachawr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad: na osodwch fi yn dywysog i’r bobl. Canys cwympodd Jerwsalem, a syrthiodd Jwda: oherwydd eu tafod hwynt a’u gweithredoedd sydd yn erbyn yr Arglwydd, i gyffroi llygaid ei ogoniant ef.

Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn; a’u pechod fel Sodom a fynegant, ac ni chelant: gwae eu henaid, canys talasant ddrwg iddynt eu hunain. 10 Dywedwch mai da fydd i’r cyfiawn: canys ffrwyth eu gweithredoedd a fwynhânt. 11 Gwae yr anwir, drwg fydd iddo: canys gwobr ei ddwylo ei hun a fydd iddo.

12 Fy mhobl sydd â’u treiswyr yn fechgyn, a gwragedd a arglwyddiaetha arnynt. O fy mhobl, y rhai a’th dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni, a ffordd dy lwybrau a ddistrywiant. 13 Yr Arglwydd sydd yn sefyll i ymddadlau, ac yn sefyll i farnu y bobloedd. 14 Yr Arglwydd a ddaw i farn â henuriaid ei bobl, a’u tywysogion: canys chwi a borasoch y winllan; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai. 15 Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl, ac a faloch ar wynebau y tlodion? medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

16 A’r Arglwydd a ddywedodd, Oherwydd balchïo o ferched Seion, a rhodio â gwddf estynedig, ac â llygaid gwamal, gan rodio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio â’u traed: 17 Am hynny y clafra yr Arglwydd gorunau merched Seion; a’r Arglwydd a ddinoetha eu gwarthle hwynt. 18 Yn y dydd hwnnw y tyn yr Arglwydd ymaith addurn yr esgidiau, y rhwydwaith hefyd, a’r lloerawg wisgoedd, 19 Y cadwynau, a’r breichledau, a’r moledau, 20 Y penguwch, ac addurn y coesau, a’r ysnodennau, a’r dwyfronegau, a’r clustlysau, 21 Y modrwyau, ac addurn y trwyn, 22 Y gwisgoedd symudliw, a’r mentyll, a’r misyrnau, a’r crychnodwyddau, 23 Y drychau hefyd, a’r lliain meinwych, a’r cocyllau, a’r gynau. 24 A bydd yn lle perarogl, ddrewi; bydd hefyd yn lle gwregys, rwygiad; ac yn lle iawn drefn gwallt, foelni; ac yn lle dwyfronneg, gwregys o sachliain; a llosgfa yn lle prydferthwch. 25 Dy wŷr a syrthiant gan y cleddyf, a’th gadernid trwy ryfel. 26 A’i phyrth hi a ofidiant, ac a alarant: a hithau yn anrheithiedig a eistedd ar y ddaear.