Add parallel Print Page Options

22 Baich glyn gweledigaeth. Beth a ddarfu i ti yn awr, pan ddringaist ti oll i nennau y tai? Ti yr hon wyt yn llawn terfysg, yn ddinas derfysgol, yn ddinas lawen: dy laddedigion ni laddwyd â chleddyf, na’th feirw mewn rhyfel. Dy holl dywysogion a gydffoesant, gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt: y rhai oll a gafwyd ynot a gydrwymwyd, y rhai a ffoesant o bell. Am hynny y dywedais, Edrychwch oddi wrthyf; mi a wylaf yn chwerw, na lafuriwch fy nghysuro, am ddinistr merch fy mhobl. Oherwydd diwrnod blinder yw, a mathru, a drysni, gan Arglwydd Dduw y lluoedd, yng nglyn gweledigaeth, yn difurio y gaer, ac yn gweiddi i’r mynydd. Elam hefyd a ddug y cawell saethau, mewn cerbydau dynion a gwŷr meirch; Cir hefyd a ddinoethodd y darian. A bydd dy ddyffrynnoedd dewisol yn llawn o gerbydau, a’r gwŷr meirch a ymfyddinant tua’r porth.

Ac efe a ddinoethodd do Jwda, ac yn y dydd hwnnw yr edrychaist ar arfogaeth tŷ’r goedwig. A gwelsoch rwygiadau dinas Dafydd, mai aml oeddynt; a chasglasoch ddyfroedd y pysgodlyn isaf. 10 Rhifasoch hefyd dai Jerwsalem, a thynasoch y tai i lawr i gadarnhau’r mur. 11 A rhwng y ddau fur y gwnaethoch lyn i ddyfroedd yr hen bysgodlyn: ond nid edrychasoch am ei wneuthurwr, nid ystyriasoch yr hwn a’i lluniodd ef er ys talm. 12 A’r dydd hwnnw y gwahoddodd Arglwydd Dduw y lluoedd rai i wylofain, ac i alarnad, ac i foeledd, ac i ymwregysu â sachliain: 13 Ac wele lawenydd a gorfoledd, gan ladd gwartheg, a lladd defaid, gan fwyta cig, ac yfed gwin: bwytawn ac yfwn; canys yfory, meddant, y byddwn feirw. 14 A datguddiwyd hyn lle y clywais gan Arglwydd y lluoedd, Yn ddiau ni lanheir yr anwiredd hyn, hyd oni byddoch feirw, medd Arglwydd Dduw y lluoedd.

15 Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Cerdda, dos at y trysorydd hwn, sef at Sebna, yr hwn sydd benteulu, a dywed, 16 Beth sydd i ti yma? a phwy sydd gennyt ti yma, pan drychaist i ti yma fedd, fel yr hwn a drychai ei fedd yn uchel, ac a naddai iddo ei hun drigfa mewn craig? 17 Wele yr Arglwydd yn dy fudo di â chaethiwed tost, a chan wisgo a’th wisg di. 18 Gan dreiglo y’th dreigla di, fel treiglo pêl i wlad eang; yno y byddi farw, ac yno y bydd cerbydau dy ogoniant yn warth i dŷ dy feistr. 19 Yna y’th yrraf o’th sefyllfa, ac o’th sefyllfa y dinistria efe di.

20 Ac yn y dydd hwnnw y galwaf ar fy ngwas Eliacim mab Hilceia: 21 A’th wisg di hefyd y gwisgaf ef, ac â’th wregys di y nerthaf ef; a than ei law ef y rhoddaf dy lywodraeth di: ac efe a fydd yn dad i breswylwyr Jerwsalem, ac i dŷ Jwda. 22 Rhoddaf hefyd agoriad tŷ Dafydd ar ei ysgwydd ef: yna yr egyr efe, ac ni bydd a gaeo; ac efe a gae, ac ni bydd a agoro. 23 A mi a’i sicrhaf ef fel hoel mewn man sicr; ac efe a fydd yn orseddfa gogoniant i dŷ ei dad. 24 Ac arno ef y crogant holl ogoniant tŷ ei dad, hil ac epil; yr holl fân lestri; o’r llestri meiliau, hyd yr holl offer cerdd. 25 Yn y dydd hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y symudir yr hoel a hoeliwyd yn y man sicr, a hi a dorrir, ac a syrth: torrir hefyd y llwyth oedd arni; canys yr Arglwydd a’i dywedodd.