Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
One verse. Every morning. Get the free Verse of the Day email.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Study resources + Scripture = deeper understanding.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Eseia 19  Beibl William Morgan

19 Baich yr Aifft. Wele yr Arglwydd yn marchogaeth ar gwmwl ysgafn, ac efe a ddaw i’r Aifft: ac eilunod yr Aifft a gynhyrfant rhagddo ef, a chalon yr Aifft a dawdd yn ei chanol. 2 Gyrraf hefyd yr Eifftiaid yn erbyn yr Eifftiaid, a hwy a ymladdant bob un yn erbyn ei frawd, a phob un yn erbyn ei gymydog; dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas. 3 Ac ysbryd yr Aifft a balla yn ei chanol, a mi a ddiddymaf ei chyngor hi: yna yr ymofynnant ag eilunod, ac â swynyddion, ac â dewiniaid, ac â brudwyr. 4 A mi a gaeaf yr Aifft yn llaw arglwydd caled; a brenin cadarn a lywodraetha arnynt, medd yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd. 5 A’r dyfroedd a ddarfyddant o’r môr, yr afon hefyd a â yn hesb ac yn sech. 6 A hwy a droant yr afonydd ymhell; y ffrydiau amddiffyn a ddihysbyddir, ac a sychant: torrir ymaith bob corsen a hesgen. 7 Y papurfrwyn wrth yr afon, ar fin yr afon, a phob peth a heuwyd wrth yr afon, a wywa, a chwelir, ac ni bydd mwy. 8 Y pysgodwyr hefyd a dristânt, a’r rhai oll a fwriant fachau i’r afonydd a alarant: felly y rhai a daenant rwydau ar hyd wyneb y dyfroedd a lesgânt. 9 Gwaradwyddir hefyd y rhai a weithiant feinllin, a’r rhai a weant rwydwaith. 10 A hwy a dorrir yn eu bwriadau, y rhai oll a wnânt argaeau a physgodlynnau.

11 Diau ynfydion yw tywysogion Soan; cyngor doethion gynghorwyr Pharo a aeth yn ynfyd: pa fodd y dywedwch wrth Pharo, Mab y doethion ydwyf fi, mab hen frenhinoedd? 12 Mae hwynt? mae dy ddoethion? a mynegant i ti yr awr hon, a gwybyddant pa gyngor a gymerodd Arglwydd y lluoedd yn erbyn yr Aifft. 13 Tywysogion Soan a ynfydasant; twyllwyd tywysogion Noff, a phenaethiaid eu llwythau a hudasant yr Aifft. 14 Cymysgodd yr Arglwydd ynddi ysbryd gwrthnysigrwydd; a hwy a wnaethant i’r Aifft gyfeiliorni yn ei holl waith, fel y cyfeiliorna meddwyn yn ei chwydfa. 15 Ac ni bydd gwaith i’r Aifft, yr hwn a wnelo y pen na’r gloren, y gangen na’r frwynen. 16 Y dydd hwnnw y bydd yr Aifft fel gwragedd; canys hi a ddychryna, ac a ofna rhag ysgydwad llaw Arglwydd y lluoedd, yr hon a ysgydwa efe arni hi. 17 A bydd tir Jwda yn arswyd i’r Aifft: pwy bynnag a’i cofia hi, a ofna ynddo ei hun; oherwydd cyngor Arglwydd y lluoedd, yr hwn a gymerodd efe yn ei herbyn hi.

18 Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd: Dinas distryw y gelwir un. 19 Y dydd hwnnw y bydd allor i’r Arglwydd yng nghanol tir yr Aifft, a cholofn i’r Arglwydd gerllaw ei therfyn hi. 20 Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i Arglwydd y lluoedd yn nhir yr Aifft. Canys llefant ar yr Arglwydd oherwydd y gorthrymwyr; ac efe a enfyn iddynt iachawdwr a phennaeth, ac efe a’u gwared hwynt. 21 A’r Arglwydd a adwaenir gan yr Aifft; ie, yr Eifftiaid a adwaenant yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: gwnânt hefyd aberth ac offrwm, ac addunant adduned i’r Arglwydd, ac a’i talant. 22 Yr Arglwydd hefyd a dery yr Aifft; efe a’i tery, ac a’i hiachâ; hwythau a droant at yr Arglwydd, ac efe a’u gwrendy hwynt, ac a’u hiachâ hwynt.

23 A’r dydd hwnnw y bydd priffordd o’r Aifft i Asyria, ac yr â yr Asyriad i’r Aifft, a’r Eifftiad i Asyria: a’r Eifftiaid gyda’r Asyriaid a wasanaethant. 24 Y dydd hwnnw y bydd Israel yn drydydd gyda’r Aifft, a chydag Asyria, sef yn fendith o fewn y tir: 25 Yr hwn a fendithia Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd Bendigedig yw yr Aifft fy mhobl i, ac Asyria gwaith fy nwylo, ac Israel fy etifeddiaeth.

Next
Eseia 18
Eseia 20
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway