Add parallel Print Page Options

35 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Gosod dy wyneb, fab dyn, tuag at fynydd Seir, a phroffwyda yn ei erbyn, A dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn di, mynydd Seir; estynnaf hefyd fy llaw i’th erbyn, a gwnaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch. Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeithwch, a thithau a fyddi yn anghyfannedd; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd. Am fod gennyt alanastra tragwyddol, a thywallt ohonot waed meibion Israel â min y cleddyf, yn amser eu gofid, yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt: Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, mi a’th wnaf di yn waed, a gwaed a’th ymlid di: gan na chasei waed, gwaed a’th ddilyn. Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan, a’r hwn a ddychwelo. Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef â’i laddedigion: yn dy fryniau, a’th ddyffrynnoedd, a’th holl afonydd, y syrth y rhai a laddwyd â’r cleddyf. Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol, a’th ddinasoedd ni ddychwelant; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 10 Am ddywedyd ohonot, Y ddwy genedl a’r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fi, a nyni a’i meddiannwn; er bod yr Arglwydd yno: 11 Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, gwnaf yn ôl dy ddig, ac yn ôl dy genfigen, y rhai o’th gas yn eu herbyn hwynt a wnaethost; fel y’m hadwaener yn eu mysg hwynt, pan y’th farnwyf di. 12 A chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd, ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel, gan ddywedyd, Anrheithiwyd hwynt, i ni y rhoddwyd hwynt i’w difa. 13 Ymfawrygasoch hefyd â’ch geneuau yn fy erbyn i, ac amlhasoch eich geiriau i’m herbyn: mi a’u clywais. 14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pan lawenycho yr holl wlad, mi a’th wnaf di yn anghyfannedd. 15 Yn ôl dy lawenydd di am feddiant tŷ Israel, oherwydd ei anrheithio, felly y gwnaf i tithau: anrhaith fyddi di, mynydd Seir, ac Edom oll i gyd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.