Add parallel Print Page Options

29 Yn y degfed mis o’r ddegfed flwyddyn, ar y deuddegfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Gosod, fab dyn, dy wyneb yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a phroffwyda yn ei erbyn ef, ac yn erbyn yr Aifft oll. Llefara, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi i’th erbyn, Pharo brenin yr Aifft, y ddraig fawr yr hwn sydd yn gorwedd yng nghanol ei afonydd, yr hwn a ddywedodd, Eiddof fi yw fy afon, a mi a’i gwneuthum hi i mi fy hun. Eithr gosodaf fachau yn dy fochgernau, a gwnaf i bysgod dy afonydd lynu yn dy emau, a chodaf di o ganol dy afonydd; ie, holl bysgod dy afonydd a lynant wrth dy emau. A mi a’th adawaf yn yr anialwch, ti a holl bysgod dy afonydd: syrthi ar wyneb y maes, ni’th gesglir, ac ni’th gynullir; i fwystfilod y maes ac i ehediaid y nefoedd y’th roddais yn ymborth. A holl drigolion yr Aifft a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, am iddynt fod yn ffon gorsen i dŷ Israel. Pan ymaflasant ynot erbyn dy law, ti a dorraist, ac a rwygaist eu holl ysgwydd: a phan bwysasant arnat, ti a dorraist, ac a wnaethost i’w holl arennau sefyll.

Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn dwyn arnat gleddyf, a thorraf ymaith ohonot ddyn ac anifail. A bydd tir yr Aifft yn ddinistr ac yn anrhaith; a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd: am iddo ddywedyd, Eiddof fi yw yr afon, a myfi a’i gwneuthum. 10 Am hynny wele fi yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy afonydd, a gwnaf dir yr Aifft yn ddiffeithwch anrheithiedig, ac yn anghyfannedd, o dŵr Syene hyd yn nherfyn Ethiopia. 11 Ni chyniwair troed dyn trwyddi, ac ni chyniwair troed anifail trwyddi, ac nis cyfanheddir hi ddeugain mlynedd. 12 A mi a wnaf wlad yr Aifft yn anghyfannedd yng nghanol gwledydd anghyfanheddol, a’i dinasoedd fyddant yn anghyfannedd ddeugain mlynedd yng nghanol dinasoedd anrheithiedig; a mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd.

13 Eto fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ymhen deugain mlynedd y casglaf yr Eifftiaid o fysg y bobloedd lle y gwasgarwyd hwynt. 14 A dychwelaf gaethiwed yr Aifft, ie, dychwelaf hwynt i dir Pathros, i dir eu preswylfa; ac yno y byddant yn frenhiniaeth isel. 15 Isaf fydd o’r breniniaethau, ac nid ymddyrchaif mwy oddi ar y cenhedloedd; canys lleihaf hwynt, rhag arglwyddiaethu ar y cenhedloedd. 16 Ac ni bydd hi mwy i dŷ Israel yn hyder, yn dwyn ar gof eu hanwiredd, pan edrychont hwy ar eu hôl hwythau: eithr cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.

17 Ac yn y mis cyntaf o’r seithfed flwyddyn ar hugain, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 18 Ha fab dyn, Nebuchodonosor brenin Babilon a wnaeth i’w lu wasanaethu gwasanaeth mawr yn erbyn Tyrus: pob pen a foelwyd, a phob ysgwydd a ddinoethwyd; ond nid oedd am Tyrus gyflog iddo, ac i’w lu, am y gwasanaeth a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi: 19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn rhoddi tir yr Aifft i Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a gymer ei lliaws hi, ac a ysbeilia ei hysbail hi, ac a ysglyfaetha ei hysglyfaeth hi, fel y byddo hi yn gyflog i’w lu ef. 20 Am ei waith yr hwn a wasanaethodd efe yn ei herbyn hi, y rhoddais iddo dir yr Aifft; oherwydd i mi y gweithiasant, medd yr Arglwydd Dduw.

21 Yn y dydd hwnnw y gwnaf i gorn tŷ Israel flaguro, a rhoddaf i tithau agoriad genau yn eu canol hwynt: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd.