
Eseciel 25 Beibl William Morgan (BWM)25 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf gan ddywedyd, 2 Ha fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn meibion Ammon, a phroffwyda yn eu herbyn hwynt; 3 A dywed wrth feibion Ammon, Gwrandewch air yr Arglwydd Dduw; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am ddywedyd ohonot, Ha, ha, yn erbyn fy nghysegr, pan halogwyd; ac yn erbyn tir Israel, pan anrheithiwyd; ac yn erbyn tŷ Jwda, pan aethant mewn caethglud: 4 Am hynny wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain, fel y gosodant eu palasau ynot, ac y gosodant eu pebyll o’th fewn: hwy a ysant dy ffrwyth, a hwy a yfant dy laeth. 5 Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod, a meibion Ammon yn orweddfa defaid: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. 6 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo, a churo ohonot â’th draed, a llawenychu ohonot yn dy galon â’th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel; 7 Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th roddaf yn fwyd i’r cenhedloedd, ac a’th dorraf ymaith o fysg y bobloedd, ac a’th ddifethaf o’r tiroedd: dinistriaf di; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd. 8 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am ddywedyd o Moab a Seir, Wele dŷ Jwda fel yr holl genhedloedd: 9 Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o’r dinasoedd, o’i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Beth‐jesimoth, Baal‐meon, a Ciriathaim, 10 I feibion y dwyrain ynghyd â meibion Ammon, a rhoddaf hwynt yn etifeddiaeth; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd. 11 Gwnaf farn hefyd ar Moab; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd. 12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am i Edom wneuthur yn erbyn tŷ Jwda wrth wneuthur dial, a gwneuthur camwedd mawr, ac ymddial arnynt; 13 Am hynny, medd yr Arglwydd Dduw, yr estynnaf finnau fy llaw ar Edom, a thorraf ohoni ddyn ac anifail; a gwnaf hi yn anrhaith o Teman; a’r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf. 14 A rhoddaf fy nialedd ar yr Edomiaid trwy law fy mhobl Israel: a hwy a wnânt ag Edom yn ôl fy nicllonedd, ac yn ôl fy llid; fel y gwypont fy nialedd, medd yr Arglwydd Dduw. 15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am wneuthur o’r Philistiaid trwy ddial, a dialu dial trwy ddirmyg calon, i’w dinistrio am yr hen gas; 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn estyn fy llaw ar y Philistiaid, a thorraf ymaith y Cerethiaid, a difethaf weddill porthladd y môr. 17 A gwnaf arnynt ddialedd mawr trwy gerydd llidiog: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf fy nialedd arnynt.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.