Add parallel Print Page Options

15 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, beth yw coed y winwydden fwy na phob coed arall, neu gainc yr hon sydd ymysg prennau y coed? A gymerir ohoni goed i wneuthur gwaith? a gymerant ohoni hoel i grogi un offeryn arni? Wele, yn ymborth i’r tân y rhoddir hi; difaodd y tân ei deuben hi, ei chanol a olosgwyd: a wasanaetha hi mewn gwaith? Wele, pan oedd gyfan, nid oedd gymwys i ddim gwaith: pa faint llai, gan ei difa o dân a’i golosgi, y bydd hi eto gymwys i waith?

Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Megis pren y winwydden ymysg prennau y coed, yr hon a roddais yn ymborth i’r tân, felly y rhoddaf drigolion Jerwsalem. A gosodaf fy wyneb yn eu herbyn hwynt: o’r naill dân y deuant allan, a thân arall a’u difa hwynt; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd, pan osodwyf fy wyneb i’w herbyn hwynt. Gwnaf hefyd y wlad yn anrhaith, am wneuthur ohonynt gamwedd, medd yr Arglwydd Dduw.