Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Understand more as you read. Go deeper with Bible Gateway Plus.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Study resources + Scripture = deeper understanding.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Eseciel 44  Beibl William Morgan

44 Ac efe a wnaeth i mi ddychwelyd ar hyd ffordd porth y cysegr nesaf allan, yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain, ac yr oedd yn gaead. 2 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Y porth hwn fydd gaead; nid agorir ef, ac nid â neb i mewn trwyddo ef: oherwydd Arglwydd Dduw Israel a aeth i mewn trwyddo ef; am hynny y bydd yn gaead. 3 I’r tywysog y mae; y tywysog, efe a eistedd ynddo i fwyta bara o flaen yr Arglwydd: ar hyd ffordd cyntedd y porth hwnnw y daw efe i mewn, a hyd ffordd yr un yr â efe allan.

4 Ac efe a’m dug i ffordd porth y gogledd o flaen y tŷ: a mi a edrychais, ac wele, llanwasai gogoniant yr Arglwydd dŷ yr Arglwydd: a mi a syrthiais ar fy wyneb. 5 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Gosod dy galon, fab dyn, a gwêl â’th lygaid, clyw hefyd â’th glustiau, yr hyn oll yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthyt, am holl ddeddfau tŷ yr Arglwydd, ac am ei holl gyfreithiau; a gosod dy feddwl ar ddyfodfa y tŷ, ac ar bob mynedfa allan o’r cysegr. 6 A dywed wrth y gwrthryfelgar, sef tŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Digon i chwi hyn, tŷ Israel, o’ch holl ffieidd‐dra; 7 Gan ddwyn ohonoch ddieithriaid dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, i fod yn fy nghysegr i’w halogi ef, sef fy nhŷ i, pan offrymasoch fy mara, y braster a’r gwaed; a hwy a dorasant fy nghyfamod, oherwydd eich holl ffieidd‐dra chwi. 8 Ac ni chadwasoch gadwraeth fy mhethau cysegredig; eithr gosodasoch i chwi eich hunain geidwaid ar fy nghadwraeth yn fy nghysegr.

9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni ddaw i’m cysegr un mab dieithr dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, o’r holl feibion dieithr y rhai sydd ymysg meibion Israel. 10 A’r Lefiaid y rhai a giliasant ymhell oddi wrthyf, pan gyfeiliornodd Israel, y rhai a grwydrasant oddi wrthyf ar ôl eu delwau, hwy a ddygant eu hanwiredd. 11 Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr, yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn gweini i’r tŷ: hwy a laddant yr offrwm poeth, ac aberth y bobl, a hwy a safant o’u blaen hwy i’w gwasanaethu hwynt. 12 Oherwydd gwasanaethu ohonynt hwy o flaen eu heilunod, a bod ohonynt i dŷ Israel yn dramgwydd i anwiredd, am hynny y dyrchefais fy llaw yn eu herbyn hwynt, medd yr Arglwydd Dduw, a hwy a ddygant eu hanwiredd. 13 Ac ni ddeuant yn agos ataf fi i offeiriadu i mi, nac i nesáu at yr un o’m pethau sanctaidd yn y cysegr sancteiddiolaf: eithr dygant eu cywilydd, a’u ffieidd‐dra a wnaethant. 14 Eithr gwnaf hwynt yn geidwaid cadwraeth y tŷ, yn ei holl wasanaeth, ac yn yr hyn oll a wneir ynddo.

15 Yna yr offeiriaid y Lefiaid, meibion Sadoc, y rhai a gadwasant gadwraeth fy nghysegr, pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthyf, hwynt‐hwy a nesânt ataf fi i’m gwasanaethu, ac a safant o’m blaen i offrymu i mi y braster a’r gwaed, medd yr Arglwydd Iôr: 16 Hwy a ânt i mewn i’m cysegr, a hwy a nesânt at fy mwrdd i’m gwasanaethu, ac a gadwant fy nghadwraeth.

17 A phan ddelont i byrth y cyntedd nesaf i mewn, gwisgant wisgoedd lliain; ac na ddeued gwlân amdanynt, tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nesaf i mewn, ac o fewn. 18 Capiau lliain fydd am eu pennau hwynt, a llodrau lliain fydd am eu llwynau hwynt: nac ymwregysant â dim a baro chwys. 19 A phan elont i’r cyntedd nesaf allan, sef at y bobl i’r cyntedd oddi allan, diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr, a gwisgant ddillad eraill; ac na chysegrant y bobl â’u gwisgoedd. 20 Eu pennau hefyd nid eilliant, ac ni ollyngant eu gwallt yn llaes: gan dalgrynnu talgrynnant eu pennau. 21 Hefyd, nac yfed un offeiriad win, pan ddelont i’r cyntedd nesaf i mewn. 22 Na chymerant chwaith yn wragedd iddynt wraig weddw, neu ysgaredig; eithr morynion o had tŷ Israel, neu y weddw a fyddo gweddw offeiriad, a gymerant. 23 A dysgant i’m pobl ragor rhwng y sanctaidd a’r halogedig, a gwnânt iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân. 24 Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn, ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i: cadwant hefyd fy nghyfreithiau a’m deddfau yn fy holl uchel wyliau; a sancteiddiant fy Sabothau. 25 Ni ddeuant chwaith at ddyn marw i ymhalogi: eithr wrth dad, ac wrth fam, ac wrth fab, ac wrth ferch, wrth frawd, ac wrth chwaer yr hon ni bu eiddo gŵr, y gallant ymhalogi. 26 Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod. 27 A’r dydd yr elo i’r cysegr, o fewn y cyntedd nesaf i mewn, i weini yn y cysegr, offrymed ei bech‐aberth, medd yr Arglwydd Dduw. 28 A bydd yn etifeddiaeth iddynt hwy; myfi yw eu hetifeddiaeth hwy. Ac na roddwch berchenogaeth iddynt hwy yn Israel; myfi yw eu perchenogaeth hwy. 29 Y bwyd‐offrwm, a’r pech‐aberth, a’r aberth dros gamwedd, a fwytânt hwy; a phob peth cysegredig yn Israel fydd eiddynt hwy. 30 A blaenion pob blaenffrwyth o bob peth, a phob offrwm pob dim oll o’ch holl offrymau, fydd eiddo yr offeiriaid: blaenffrwyth eich toes hefyd a roddwch i’r offeiriad, i osod bendith ar dy dŷ. 31 Na fwytaed yr offeiriaid ddim a fu farw ei hun, neu ysglyfaeth o aderyn neu o anifail.

Next
Eseciel 43
Eseciel 45
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway