Eseciel 4
Beibl William Morgan
4 Tithau fab dyn, cymer i ti briddlech, a dod hi o’th flaen, a llunia arni ddinas Jerwsalem: 2 A gwarchae yn ei herbyn hi, ac adeilada wrthi warchglawdd, a bwrw o’i hamgylch hi wrthglawdd; dod hefyd wersylloedd wrthi, a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch. 3 Cymer i ti hefyd badell haearn, a dod hi yn fur haearn rhyngot a’r ddinas; a chyfeiria dy wyneb ati, a bydd mewn gwarchaeedigaeth, a gwarchae di arni. Arwydd fydd hyn i dŷ Israel. 4 Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy, a gosod anwiredd tŷ Israel arni; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni, y dygi eu hanwiredd hwynt. 5 Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt, wrth rifedi y dyddiau, tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain: felly y dygi anwiredd tŷ Israel. 6 A phan orffennych y rhai hynny, gorwedd eilwaith ar dy ystlys ddeau, a thi a ddygi anwiredd tŷ Jwda ddeugain niwrnod: pob diwrnod am flwyddyn a roddais i ti. 7 A chyfeiria dy wyneb at warchaeedigaeth Jerwsalem, a’th fraich yn noeth; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi. 8 Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throech o ystlys i ystlys, nes gorffen ohonot ddyddiau dy warchaeedigaeth.
9 Cymer i ti hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chorbys, a dod hwynt mewn un llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, dros rifedi y dyddiau y gorweddych ar dy ystlys: tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef. 10 A’th fwyd a fwytei a fydd wrth bwys, ugain sicl yn y dydd: o amser i amser y bwytei ef. 11 Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur; chweched ran hin a yfi, o amser i amser. 12 Ac fel teisen haidd y bwytei ef; ti a’i cresi hi hefyd wrth dail tom dyn, yn eu gŵydd hwynt. 13 A dywedodd yr Arglwydd, Felly y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt. 14 Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, ni halogwyd fy enaid, ac ni fwyteais furgyn neu ysglyfaeth o’m hieuenctid hyd yr awr hon; ac ni ddaeth i’m safn gig ffiaidd. 15 Yntau a ddywedodd wrthyf, Wele, mi a roddais i ti fiswail gwartheg yn lle tom dyn, ac â hwynt y gwnei dy fara. 16 Dywedodd hefyd wrthyf, Mab dyn, wele fi yn torri ffon bara yn Jerwsalem, fel y bwytaont fara dan bwys, ac mewn gofal; ac yr yfont ddwfr dan fesur, ac mewn syndod. 17 Fel y byddo arnynt eisiau bara a dwfr, ac y synnont un gydag arall, ac y darfyddont yn eu hanwiredd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.