Add parallel Print Page Options

33 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Llefara, fab dyn, wrth feibion dy bobl, a dywed wrthynt, Pan ddygwyf gleddyf ar wlad, a chymryd o bobl y wlad ryw ŵr o’i chyrrau, a’i roddi yn wyliedydd iddynt: Os gwêl efe gleddyf yn dyfod ar y wlad, ac utganu mewn utgorn, a rhybuddio y bobl; Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn, ac ni chymer rybudd; eithr dyfod o’r cleddyf a’i gymryd ef ymaith, ei waed fydd ar ei ben ei hun. Efe a glybu lais yr utgorn, ac ni chymerodd rybudd; ei waed fydd arno: ond yr hwn a gymero rybudd, a wared ei enaid. Ond pan welo y gwyliedydd y cleddyf yn dyfod, ac ni utgana mewn utgorn, a’r bobl heb eu rhybuddio; eithr dyfod o’r cleddyf a chymryd un ohonynt, efe a ddaliwyd yn ei anwiredd, ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwyliedydd.

Felly dithau, fab dyn, yn wyliedydd y’th roddais i dŷ Israel; fel y clywech air o’m genau, ac y rhybuddiech hwynt oddi wrthyf fi. Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Ti annuwiol, gan farw a fyddi farw; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o’i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef. Ond os rhybuddi di yr annuwiol o’i ffordd, i ddychwelyd ohoni; os efe ni ddychwel o’i ffordd, efe fydd farw yn ei anwiredd, a thithau a waredaist dy enaid.

10 Llefara hefyd wrth dŷ Israel, ti fab dyn, Fel hyn gan ddywedyd y dywedwch; Os yw ein hanwireddau a’n pechodau arnom, a ninnau yn dihoeni ynddynt, pa fodd y byddem ni byw? 11 Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol; ond troi o’r annuwiol oddi wrth ei ffordd, a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus; canys, tŷ Israel, paham y byddwch feirw? 12 Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuwioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o’i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho. 13 Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn, Gan fyw y caiff fyw; os efe a hydera ar ei gyfiawnder, ac a wna anwiredd, ei holl gyfiawnderau ni chofir; ond am ei anwiredd a wnaeth, amdano y bydd efe marw. 14 A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Gan farw y byddi farw; os dychwel efe oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn a chyfiawnder; 15 Os yr annuwiol a ddadrydd wystl, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur anwiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw: 16 Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd: barn a chyfiawnder a wnaeth; efe gan fyw a fydd byw.

17 A meibion dy bobl a ddywedant, Nid yw union ffordd yr Arglwydd: eithr eu ffordd hwynt nid yw union. 18 Pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur anwiredd, efe a fydd marw ynddynt. 19 A phan ddychwelo yr annuwiol oddi wrth ei annuwioldeb, a gwneuthur barn a chyfiawnder, yn y rhai hynny y bydd efe byw. 20 Eto chwi a ddywedwch nad union ffordd yr Arglwydd. Barnaf chwi, tŷ Israel, bob un yn ôl ei ffyrdd ei hun.

21 Ac yn y degfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn o’n caethgludiad ni, ar y pumed dydd o’r mis, y daeth un a ddianghasai o Jerwsalem ataf fi, gan ddywedyd, Trawyd y ddinas. 22 A llaw yr Arglwydd a fuasai arnaf yn yr hwyr, cyn dyfod y dihangydd, ac a agorasai fy safn, nes ei ddyfod ataf y bore; ie, ymagorodd fy safn, ac ni bûm fud mwyach. 23 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 24 Ha fab dyn, preswylwyr y diffeithwch hyn yn nhir Israel ydynt yn llefaru, gan ddywedyd, Abraham oedd un, ac a feddiannodd y tir; ninnau ydym lawer, i ni y rhoddwyd y tir yn etifeddiaeth. 25 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yr ydych yn bwyta ynghyd â’r gwaed, ac yn dyrchafu eich llygaid at eich gau dduwiau, ac yn tywallt gwaed; ac a feddiennwch chwi y tir? 26 Sefyll yr ydych ar eich cleddyf, gwnaethoch ffieidd‐dra, halogasoch hefyd bob un wraig ei gymydog; ac a feddiennwch chwi y tir? 27 Fel hyn y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Fel mai byw fi, trwy y cleddyf y syrth y rhai sydd yn y diffeithwch; a’r hwn sydd ar wyneb y maes, i’r bwystfil y rhoddaf ef i’w fwyta; a’r rhai sydd yn yr amddiffynfeydd ac mewn ogofeydd, a fyddant feirw o’r haint. 28 Canys gwnaf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith; a balchder ei nerth ef a baid, ac anrheithir mynyddoedd Israel, heb gyniweirydd ynddynt. 29 A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan wnelwyf y tir yn anrhaith, ie, yn anrhaith, am eu holl ffieidd‐dra a wnaethant.

30 Tithau fab dyn, meibion dy bobl sydd yn siarad i’th erbyn wrth y parwydydd, ac o fewn drysau y tai, ac yn dywedyd y naill wrth y llall, pob un wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Deuwch, atolwg, a gwrandewch beth yw y gair sydd yn dyfod oddi wrth yr Arglwydd. 31 Deuant hefyd atat fel y daw y bobl, ac eisteddant o’th flaen fel fy mhobl, gwrandawant hefyd dy eiriau, ond nis gwnânt hwy: canys â’u geneuau y dangosant gariad, a’u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd‐dod. 32 Wele di hefyd iddynt fel cân cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda: canys gwrandawant dy eiriau, ond nis gwnânt hwynt. 33 A phan ddelo hyn, (wele ef yn dyfod,) yna y cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg.