Add parallel Print Page Options

31 Ac yn y trydydd mis o’r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Dywed, fab dyn, wrth Pharo brenin yr Aifft, ac wrth ei liaws, I bwy yr ydwyt debyg yn dy fawredd?

Wele, Assur oedd gedrwydden yn Libanus, yn deg ei cheinciau, a’i brig yn cysgodi, ac yn uchel ei huchder, a’i brigyn oedd rhwng y tewfrig. Dyfroedd a’i maethasai hi, y dyfnder a’i dyrchafasai, â’i hafonydd yn cerdded o amgylch ei phlanfa; bwriodd hefyd ei ffrydiau at holl goed y maes. Am hynny yr ymddyrchafodd ei huchder hi goruwch holl goed y maes, a’i cheinciau a amlhasant, a’i changhennau a ymestynasant, oherwydd dyfroedd lawer, pan fwriodd hi allan. Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheinciau hi, a holl fwystfilod y maes a lydnent dan ei changhennau hi; ie, yr holl genhedloedd lluosog a eisteddent dan ei chysgod hi. Felly teg ydoedd hi yn ei mawredd, yn hyd ei brig; oherwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer. Y cedrwydd yng ngardd Duw ni allent ei chuddio hi: y ffynidwydd nid oeddynt debyg i’w cheinciau hi, a’r ffawydd nid oeddynt fel ei changhennau hi; ac un pren yng ngardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi yn ei thegwch. Gwnaethwn hi yn deg gan liaws ei changhennau: a holl goed Eden, y rhai oedd yng ngardd Duw, a genfigenasant wrthi hi.

10 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd ymddyrchafu ohonot mewn uchder, a rhoddi ohoni ei brig ymysg y tewfrig, ac ymddyrchafu ei chalon yn ei huchder; 11 Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd: gan wneuthur y gwna efe iddi; am ei drygioni y bwriais hi allan. 12 A dieithriaid, rhai ofnadwy y cenhedloedd, a’i torasant hi ymaith, ac a’i gadawsant hi: ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi, a’i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o’i chysgod hi, ac a’i gadawsant hi. 13 Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei chyff hi, a holl fwystfilod y maes a fyddant ar ei changhennau hi; 14 Fel nad ymddyrchafo holl goed y dyfroedd yn eu huchder, ac na roddont eu brigyn rhwng y tewfrig, ac na safo yr holl goed dyfradwy yn eu huchder: canys rhoddwyd hwynt oll i farwolaeth yn y tir isaf yng nghanol meibion dynion, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yn y dydd y disgynnodd hi i’r bedd, gwneuthum alaru: toais y dyfnder amdani hi, ac ateliais ei hafonydd, fel yr ataliwyd dyfroedd lawer; gwneuthum i Libanus alaru amdani hi, ac yr ydoedd ar holl goed y maes lesmair amdani hi. 16 Gan sŵn ei chwymp hi y cynhyrfais y cenhedloedd, pan wneuthum iddi ddisgyn i uffern gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll; a holl goed Eden, y dewis a’r gorau yn Libanus, y dyfradwy oll, a ymgysurant yn y tir isaf. 17 Hwythau hefyd gyda hi a ddisgynnant i uffern at laddedigion y cleddyf, a’r rhai oedd fraich iddi hi, y rhai a drigasant dan ei chysgod hi yng nghanol y cenhedloedd.

18 I bwy felly ymysg coed Eden yr oeddit debyg mewn gogoniant a mawredd? eto ti a ddisgynnir gyda choed Eden i’r tir isaf; gorweddi yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf. Dyma Pharo a’i holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.