Add parallel Print Page Options

Fy mab, gwrando ar fy noethineb, a gostwng dy glust at fy neall: Fel y gellych ystyried pwyll, a’th wefusau gadw gwybodaeth.

Canys gwefusau y ddieithr a ddiferant fel y dil mêl, a’i genau sydd lyfnach nag olew: Ond ei diwedd hi a fydd chwerw fel y wermod, yn llym fel cleddyf daufiniog. Ei thraed hi a ddisgynnant i angau; a’i cherddediad a sang uffern. Rhag i ti ystyrio ffordd bywyd, y symud ei chamre hi, heb wybod i ti. Yr awr hon gan hynny, O blant, gwrandewch arnaf fi, ac na ymadewch â geiriau fy ngenau. Cadw dy ffordd ymhell oddi wrthi hi, ac na nesâ at ddrws ei thŷ hi: Rhag i ti roddi dy harddwch i eraill, a’th flynyddoedd i’r creulon: 10 Rhag llenwi yr estron â’th gyfoeth di, ac i’th lafur fod yn nhŷ y dieithr; 11 Ac o’r diwedd i ti ochain, wedi i’th gnawd a’th gorff gurio, 12 A dywedyd, Pa fodd y caseais i addysg! pa fodd y dirmygodd fy nghalon gerydd! 13 Ac na wrandewais ar lais fy athrawon, ac na ostyngais fy nghlust i’m dysgawdwyr! 14 Bûm o fewn ychydig at bob drwg, yng nghanol y gynulleidfa a’r dyrfa.

15 Yf ddwfr o’th bydew dy hun, a ffrydiau allan o’th ffynnon dy hun. 16 Tardded dy ffynhonnau allan, a’th ffrydiau dwfr yn yr heolydd. 17 Byddant yn eiddot ti dy hun yn unig, ac nid yn eiddo dieithriaid gyda thi. 18 Bydded dy ffynnon yn fendigedig: ac ymlawenha gyda gwraig dy ieuenctid. 19 Bydded fel ewig gariadus, ac fel iyrches hawddgar: gad i’w bronnau hi dy lenwi bob amser, ac ymfodlona yn ei chariad hi yn wastadol. 20 A phaham, fy mab, yr ymddigrifi yn y wraig ddieithr, ac y cofleidi fynwes yr hon nid yw eiddot ti? 21 Canys ffyrdd dyn sydd yng ngolwg yr Arglwydd, ac y mae efe yn dal ar ei holl lwybrau ef.

22 Ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, ac efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun. 23 Efe a fydd farw o eisiau addysg; a rhag maint ei ffolineb yr â ar gyfeiliorn.