Add parallel Print Page Options

Fy mab, na ollwng fy nghyfraith dros gof; ond cadwed dy galon fy ngorchmynion: Canys hir ddyddiau, a blynyddoedd bywyd, a heddwch, a chwanegant hwy i ti. Na ad i drugaredd a gwirionedd ymadael â thi: clyma hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon. Felly y cei di ras a deall da gerbron Duw a dynion.

Gobeithia yn yr Arglwydd â’th holl galon; ac nac ymddiried i’th ddeall dy hun. Yn dy holl ffyrdd cydnebydd ef, ac efe a hyfforddia dy lwybrau.

Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun: ofna yr Arglwydd, a thyn ymaith oddi wrth ddrygioni. Hynny a fydd iechyd i’th fogail, a mêr i’th esgyrn.

Anrhydedda yr Arglwydd â’th gyfoeth, ac â’r peth pennaf o’th holl ffrwyth: 10 Felly y llenwir dy ysguboriau â digonoldeb, a’th winwryfoedd a dorrant gan win newydd.

11 Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd; ac na flina ar ei gosbedigaeth ef; 12 Canys y neb a fyddo Duw yn ei garu, efe a’i cerydda, megis tad ei fab annwyl ganddo.

13 Gwyn ei fyd y dyn a gaffo ddoethineb, a’r dyn a ddygo ddeall allan. 14 Canys gwell yw ei marsiandïaeth hi na marsiandïaeth o arian, a’i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth. 15 Gwerthfawrocach yw hi na gemau: a’r holl bethau dymunol nid ydynt gyffelyb iddi. 16 Hir hoedl sydd yn ei llaw ddeau hi; ac yn ei llaw aswy y mae cyfoeth a gogoniant. 17 Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a’i holl lwybrau hi ydynt heddwch. 18 Pren bywyd yw hi i’r neb a ymaflo ynddi: a gwyn ei fyd a ddalio ei afael ynddi hi. 19 Yr Arglwydd trwy ddoethineb a seiliodd y ddaear; trwy ddeall y sicrhaodd efe y nefoedd. 20 Trwy ei wybodaeth ef yr holltodd y dyfnderau, ac y defnynna yr wybrennau wlith.

21 Fy mab, na ollwng hwynt allan o’th olwg: cadw ddoethineb a phwyll. 22 Yna y byddant yn fywyd i’th enaid, ac yn ras i’th wddf. 23 Yna y cei rodio dy ffordd yn ddiofal, a’th droed ni thramgwydda. 24 Pan orweddych, nid ofni; ti a orweddi, a’th gwsg fydd felys. 25 Nac ofna rhag braw disymwth, na rhag dinistr yr annuwiol pan ddelo. 26 Canys yr Arglwydd a fydd dy hyder di, ac a geidw dy droed rhag ei ddal.

27 Na atal ddaioni oddi wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fyddo ar dy law ei wneuthur. 28 Na ddywed wrth dy gymydog, Cerdda ymaith, a thyred amser arall, ac yfory mi a roddaf; a chennyt beth yn awr. 29 Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau yn trigo yn ddiofal yn dy ymyl.

30 Nac ymryson â neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti.

31 Na chenfigenna wrth ŵr traws, ac na ddewis yr un o’i ffyrdd ef. 32 Canys ffiaidd gan yr Arglwydd y cyndyn: ond gyda’r rhai uniawn y mae ei gyfrinach ef.

33 Melltith yr Arglwydd sydd yn nhŷ yr annuwiol: ond efe a fendithia drigfa y cyfiawn.

34 Diau efe a watwar y gwatwarus: ond ei ras a rydd efe i’r gostyngedig. 35 Y doethion a etifeddant anrhydedd, a gwarth fydd dyrchafiad ffyliaid.