Add parallel Print Page Options

20 Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth. Megis rhuad llew ieuanc yw ofn y brenin: y mae y neb a’i cyffrô ef i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun. Anrhydeddus yw i ŵr beidio ag ymryson: ond pob ffôl a fyn ymyrraeth. Y diog nid ardd, oherwydd oerder y gaeaf; am hynny y cardota efe y cynhaeaf, ac ni chaiff ddim. Megis dyfroedd dyfnion yw pwyll yng nghalon gŵr: eto y gŵr call a’i tyn allan. Llawer dyn a gyhoedda ei drugarowgrwydd ei hun: ond pwy a gaiff ŵr ffyddlon? Y cyfiawn a rodia yn ei uniondeb: gwyn eu byd ei blant ar ei ôl ef. Brenin yn eistedd ar orsedd barn, a wasgar â’i lygaid bob drwg. Pwy a ddichon ddywedyd, Mi a lanheais fy nghalon, glân wyf oddi wrth fy mhechod? 10 Amryw bwysau, ac amryw fesurau, ffiaidd gan yr Arglwydd bob un o’r ddau. 11 Bachgen a adwaenir wrth ei waith, ai pur ai uniawn yw ei waith. 12 Y glust yn clywed, a’r llygad yn gweled, yr Arglwydd a wnaeth bob un o’r ddau. 13 Na châr gysgu, rhag dy fyned yn dlawd: agor dy lygaid, fel y’th ddigoner â bara. 14 Drwg, drwg, medd y prynwr: ond pan êl o’r neilltu, efe a ymffrostia. 15 Y mae aur, a gemau lawer: ond gwefusau gwybodaeth sydd ddodrefnyn gwerthfawr. 16 Cymer wisg y gŵr a fachnïo dros estron; a chymer wystl ganddo dros estrones. 17 Melys gan ŵr fara trwy ffalsedd: ond o’r diwedd ei enau a lenwir â graean. 18 Bwriadau a sicrheir trwy gyngor: a thrwy gyngor diesgeulus dos i ryfela. 19 Y neb a fyddo athrodwr a ddatguddia gyfrinach: am hynny nac ymyrr â’r hwn a wenieithio â’i wefusau. 20 Y neb a felltithio ei dad neu ei fam, ei gannwyll a ddiffoddir yn y tywyllwch du. 21 Etifeddiaeth a geir ar frys yn y dechreuad; ond ei diwedd ni fendithir. 22 Na ddywed, Mi a dalaf ddrwg: disgwyl wrth yr Arglwydd, ac efe a’th achub. 23 Ffiaidd gan yr Arglwydd amryw bwysau; a chlorian twyllodrus nid yw dda. 24 Oddi wrth yr Arglwydd y mae cerddediad gŵr: ond beth a ddeall dyn o’i ffordd ei hun? 25 Magl yw i ŵr lyncu peth cysegredig; ac wedi addunedu, ymofyn. 26 Brenin doeth a wasgar yr annuwiol, ac a dry yr olwyn arnynt. 27 Cannwyll yr Arglwydd yw ysbryd dyn, yn chwilio holl gelloedd y bol. 28 Trugaredd a ffyddlondeb a gadwant y brenin; a’i orseddfa a gadarnheir trwy drugaredd. 29 Gogoniant gwŷr ieuainc yw eu nerth; a harddwch hynafgwyr yw gwallt gwyn. 30 Cleisiau briw a lanha ddrwg: felly y gwna dyrnodiau gelloedd y bol.