Add parallel Print Page Options

14 Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo. Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder, sydd yn ofni yr Arglwydd; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef. Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt. Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych. Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau. Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus. Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth. Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll. Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd: ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da. 10 Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi. 11 Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua. 12 Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau. 13 Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch. 14 Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef. 15 Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre. 16 Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus. 17 Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar. 18 Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth. 19 Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn. 20 Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog. 21 A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef. 22 Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni. 23 Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi. 24 Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb. 25 Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau. 26 Yn ofn yr Arglwydd y mae gobaith cadarn: ac i’w blant ef y bydd noddfa. 27 Ofn yr Arglwydd yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau. 28 Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog. 29 Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd. 30 Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn. 31 Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef. 32 Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw. 33 Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir. 34 Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod. 35 Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol: ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus.