Add parallel Print Page Options

12 Yneb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw. Gŵr da a gaiff ffafr gan yr Arglwydd: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe. Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga. Gwraig rymus sydd goron i’w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef. Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus. Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a’u gwared hwynt. Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif. Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir. Gwell yw yr hwn a’i cydnabyddo ei hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na’r hwn a’i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara. 10 Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon. 11 Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw. 12 Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth. 13 Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder. 14 Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo. 15 Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall. 16 Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd. 17 Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll. 18 Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth. 19 Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr. 20 Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd. 21 Ni ddigwydd i’r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg. 22 Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a ryngant fodd iddo ef. 23 Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb. 24 Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged. 25 Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a’i llawenha hi. 26 Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a’u twylla hwynt. 27 Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr. 28 Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.