Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
One verse. Every morning. Get the free Verse of the Day email.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
New Bible Gateway. Take the quick tour.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Diarhebion 16  Beibl William Morgan

16 Paratoad y galon mewn dyn, ac ymadrodd y tafod, oddi wrth yr Arglwydd y mae. 2 Holl ffyrdd dyn ydynt lân yn ei olwg ei hun: ond yr Arglwydd a bwysa yr ysbrydion. 3 Treigla dy weithredoedd ar yr Arglwydd, a’th feddyliau a safant. 4 Yr Arglwydd a wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun: a’r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg. 5 Ffiaidd gan yr Arglwydd bob dyn uchel galon: er maint fyddo ei gymorth, ni bydd dieuog. 6 Trwy drugaredd a gwirionedd y dileir pechod: a thrwy ofn yr Arglwydd y mae ymado oddi wrth ddrwg. 7 Pan fyddo ffyrdd gŵr yn rhyngu bodd i’r Arglwydd, efe a bair i’w elynion fod yn heddychol ag ef. 8 Gwell yw ychydig trwy gyfiawnder, na chnwd mawr trwy gam. 9 Calon dyn a ddychymyg ei ffordd: ond yr Arglwydd a gyfarwydda ei gerddediad ef. 10 Ymadrodd Duw sydd yng ngwefusau y brenin: ni ŵyra ei enau ef mewn barn. 11 Pwys a chloriannau cywir, yr Arglwydd a’u piau: ei waith ef yw holl gerrig y god. 12 Ffiaidd yw i frenhinoedd wneuthur annuwioldeb: canys trwy gyfiawnder y cadarnheir yr orsedd. 13 Gwefusau cyfiawn sydd gymeradwy gan frenhinoedd; a’r brenin a gâr a draetho yr uniawn. 14 Digofaint y brenin sydd megis cennad angau; ond gŵr doeth a’i gostega. 15 Yn siriol wynepryd y brenin y mae bywyd: a’i ewyllys da ef sydd megis cwmwl glaw diweddar. 16 Cael doethineb, O mor well yw nag aur coeth! a chael deall, mwy dymunol yw nag arian. 17 Sarn y cyfiawn yw dychwelyd oddi wrth ddrwg: y neb a gadwo ei ffordd, a geidw ei enaid. 18 Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp. 19 Gwell yw bod yn ostyngedig gyda’r gostyngedig, na rhannu yr ysbail gyda’r beilchion. 20 A drino fater yn ddoeth, a gaiff ddaioni: a’r neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, O gwyn ei fyd hwnnw! 21 Y doeth ei galon a elwir yn ddeallus; a melyster y gwefusau a chwanega ddysgeidiaeth. 22 Ffynnon y bywyd yw deall i’w pherchennog: ond addysg ffyliaid yw ffolineb. 23 Calon y doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol, ac a chwanega addysg i’w wefusau. 24 Geiriau teg ydynt megis dil mêl, yn felys i’r enaid, ac yn iachus i’r esgyrn. 25 Mae ffordd a dybir ei bod yn uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd yw ffyrdd marwolaeth. 26 Y neb a lafurio, a lafuria iddo ei hun: canys ei enau a’i gofyn ganddo. 27 Dyn i’r fall sydd yn cloddio drwg: ac ar ei wefusau yr erys fel tân poeth. 28 Dyn cyndyn a bair ymryson: a’r hustyngwr a neilltua dywysogion. 29 Gŵr traws a huda ei gymydog, ac a’i tywys i’r ffordd nid yw dda. 30 Efe a gae ei lygaid i ddychymyg trawsedd; gan symud ei wefusau y dwg efe ddrwg i ben. 31 Coron anrhydeddus yw penllwydni, os bydd mewn ffordd cyfiawnder. 32 Gwell yw y diog i ddigofaint na’r cadarn; a’r neb a reola ei ysbryd ei hun, na’r hwn a enillo ddinas. 33 Y coelbren a fwrir i’r arffed: ond oddi wrth yr Arglwydd y mae ei holl lywodraethiad ef.

Next
Diarhebion 15
Diarhebion 17
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway