Add parallel Print Page Options

Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchenogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd; Pobl fawr ac uchel, meibion Anac, y rhai a adnabuost, ac y clywaist ti ddywedyd amdanynt, Pwy a saif o flaen meibion Anac? Gwybydd gan hynny heddiw, fod yr Arglwydd dy Dduw yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol: efe a’u difetha hwynt, ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr Arglwydd wrthyt. Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o’r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, gan ddywedyd, Am fy nghyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i feddiannu’r tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o’th flaen di. Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, ac er cyflawni’r gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob. Gwybydd dithau, nad am dy gyfiawnder dy hun y rhoddes yr Arglwydd i ti y tir daionus hwn i’w feddiannu: canys pobl wargaled ydych.

Meddwl, ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch: o’r dydd y daethost allan o dir yr Aifft, hyd eich dyfod i’r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd. Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Arglwydd; a digiodd yr Arglwyddwrthych i’ch difetha. Pan euthum i fyny i’r mynydd i gymryd y llechau meini, sef llechau y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwyteais, a dwfr nid yfais. 10 A rhoddes yr Arglwydd ataf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifennu â bys Duw; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymanfa. 11 A bu, ymhen y deugain niwrnod a’r deugain nos, roddi o’r Arglwydd ataf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfamod. 12 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o’r Aifft: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd. 13 A llefarodd yr Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt. 14 Paid â mi, a mi a’u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a’th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt‐hwy. 15 A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o’r mynydd, a’r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo. 16 Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o’r ffordd a orchmynasai yr Arglwydd i chwi. 17 A mi a ymeflais yn y ddwy lech, ac a’u teflais hwynt o’m dwylo, ac a’u torrais hwynt o flaen eich llygaid. 18 A syrthiais gerbron yr Arglwydd, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwyteais fara, ac nid yfais ddwfr: oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd i’w ddigio ef. 19 (Canys ofnais rhag y soriant a’r dig, trwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych, i’ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd. 20 Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr, i’w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno. 21 Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo, a gymerais, ac a’i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i’r afon oedd yn disgyn o’r mynydd. 22 O fewn Tabera hefyd, ac o fewn Massa, ac o fewn Beddau’r blys, yr oeddech yn digio’r Arglwydd. 23 A phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cades‐Barnea, gan ddywedyd, Ewch i fyny, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr Arglwydd eich Duw: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef. 24 Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd er y dydd yr adnabûm chwi. 25 A mi a syrthiais gerbron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o’r blaen; am ddywedyd o’r Arglwydd y difethai chwi. 26 Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais, Arglwydd Dduw, na ddifetha dy bobl, a’th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o’r Aifft â llaw gref. 27 Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod: 28 Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni allan ohoni, O eisiau gallu o’r Arglwydd eu dwyn hwynt i’r tir a addawsai efe iddynt, ac o’i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i’w lladd yn yr anialwch. 29 Eto dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â’th estynedig fraich.