Add parallel Print Page Options

Adyma ’r gorchmynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu: Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.

Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. Clyw, O Israel; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd. Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth. A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon. A hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny. A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth. 10 Ac fe a dderfydd, wedi i’r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist, 11 A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist, wedi i ti fwyta, a’th ddigoni; 12 Yna cadw arnat, rhag anghofio ohonot yr Arglwydd, yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed. 13 Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i’w enw ef y tyngi. 14 Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o’ch amgylch chwi: 15 (Oblegid Duw eiddigus yw yr Arglwydd dy Dduw yn dy fysg di,) rhag i lid yr Arglwydd dy Dduw ennyn yn dy erbyn, a’th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.

16 Na themtiwch yr Arglwydd eich Duw, fel y temtiasoch ef ym Massa. 17 Gan gadw cedwch orchmynion yr Arglwydd eich Duw, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, y rhai a orchmynnodd efe i ti. 18 A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr Arglwydd: fel y byddo da i ti, a myned ohonot i mewn, a pherchenogi’r wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr Arglwydd i’th dadau di; 19 Gan yrru ymaith dy holl elynion o’th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd. 20 Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i chwi? 21 Yna dywed wrth dy fab, Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft; a’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn. 22 Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aifft, ar Pharo a’i holl dŷ, yn ein golwg ni; 23 Ac a’n dug ni allan oddi yno, fel y dygai efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i’n tadau ni. 24 A’r Arglwydd a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni yr Arglwydd ein Duw, er daioni i ni yr holl ddyddiau; fel y cadwai efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn. 25 A chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll, o flaen yr Arglwydd ein Duw, fel y gorchmynnodd efe i ni.