Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
One verse. Every morning. Get the free Verse of the Day email.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
One verse. Every morning. Sign up.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Deuteronomium 18  Beibl William Morgan

18 Ni bydd i’r offeiriaid, i’r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a’i etifeddiaeth ef, a fwytânt hwy. 2 Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.

3 A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog a’r ddwy ên, a’r boten. 4 Blaenffrwyth dy ŷd, dy win, a’th olew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef. 5 Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o’th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd, efe a’i feibion yn dragywydd.

6 A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr Arglwydd; 7 Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr Arglwydd. 8 Rhan am ran a fwytânt, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.

9 Pan elych di i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd hynny. 10 Na chaffer ynot a wnelo i’w fab, neu i’w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol, 11 Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofynno â’r meirw: 12 Oherwydd ffieidd‐dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di. 13 Bydd berffaith gyda’r Arglwydd dy Dduw. 14 Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, nid felly y caniataodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

15 Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o’th blith dy hun, o’th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandewch 16 Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, Na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw. 17 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant 18 Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo. 19 A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a’i gofynnaf ganddo. 20 Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth. 21 Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd? 22 Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd, a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.

Next
Deuteronomium 17
Deuteronomium 19
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway