Datguddiad 14
Beibl William Morgan
14 Ac mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Seion, a chydag ef bedair mil a saith ugeinmil, a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedig yn eu talcennau. 2 Ac mi a glywais lef o’r nef, fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taran fawr: ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau: 3 A hwy a ganasant megis caniad newydd gerbron yr orseddfainc, a cherbron y pedwar anifail, a’r henuriaid: ac ni allodd neb ddysgu’r gân, ond y pedair mil a’r saith ugeinmil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaear. 4 Y rhai hyn yw’r rhai ni halogwyd â gwragedd; canys gwyryfon ydynt. Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn dilyn yr Oen pa le bynnag yr elo. Y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaenffrwyth i Dduw ac i’r Oen. 5 Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt gerbron gorseddfainc Duw. 6 Ac mi a welais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef, a’r efengyl dragwyddol ganddo, i efengylu i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, ac i bob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl: 7 Gan ddywedyd â llef uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant; oblegid daeth awr ei farn ef: ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef, a’r ddaear, a’r môr, a’r ffynhonnau dyfroedd. 8 Ac angel arall a ddilynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon, y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl genhedloedd â gwin llid ei godineb. 9 A’r trydydd angel a’u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef uchel, Os addola neb y bwystfil a’i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law, 10 Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen: 11 A mwg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorffwystra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli’r bwystfil a’i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw ef. 12 Yma y mae amynedd y saint: yma y mae’r rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, a ffydd Iesu. 13 Ac mi a glywais lef o’r nef, yn dywedyd wrthyf, Ysgrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddi wrth eu llafur; a’u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt. 14 Ac mi a edrychais ac wele gwmwl gwyn, ac ar y cwmwl un yn eistedd tebyg i Fab y dyn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym. 15 Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml, gan lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Bwrw dy gryman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi; oblegid aeddfedodd cynhaeaf y ddaear. 16 A’r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl a fwriodd ei gryman ar y ddaear; a’r ddaear a fedwyd. 17 Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml sydd yn y nef, a chanddo yntau hefyd gryman llym. 18 Ac angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor, yr hwn oedd â gallu ganddo ar y tân; ac a lefodd â bloedd uchel ar yr hwn oedd â’r cryman llym ganddo, gan ddywedyd, Bwrw i mewn dy gryman llym, a chasgl ganghennau gwinwydden y ddaear: oblegid aeddfedodd ei grawn hi. 19 A’r angel a fwriodd ei gryman ar y ddaear, ac a gasglodd winwydden y ddaear, ac a’i bwriodd i gerwyn fawr digofaint Duw. 20 A’r gerwyn a sathrwyd o’r tu allan i’r ddinas; a gwaed a ddaeth allan o’r gerwyn, hyd at ffrwynau’r meirch, ar hyd mil a chwe chant o ystadau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.