Add parallel Print Page Options

12 Arhyfeddod mawr a welwyd yn y nef; gwraig wedi ei gwisgo â’r haul, a’r lleuad dan ei thraed, ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren: A hi’n feichiog, a lefodd, gan fod mewn gwewyr, a gofid i esgor. A gwelwyd rhyfeddod arall yn y nef; ac wele ddraig goch fawr, a saith ben iddi, a deg corn; ac ar ei phennau saith goron. A’i chynffon hi a dynnodd draean sêr y nef, ac a’u bwriodd hwynt i’r ddaear. A’r ddraig a safodd gerbron y wraig yr hon ydoedd yn barod i esgor, i ddifa ei phlentyn hi pan esgorai hi arno. A hi a esgorodd ar fab gwryw, yr hwn oedd i fugeilio’r holl genhedloedd â gwialen haearn: a’i phlentyn hi a gymerwyd i fyny at Dduw, ac at ei orseddfainc ef. A’r wraig a ffodd i’r diffeithwch, lle mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthent hi yno fil a deucant a thri ugain o ddyddiau. A bu rhyfel yn y nef: Michael a’i angylion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a’r ddraig a ryfelodd a’i hangylion hithau, Ac ni orfuant; a’u lle hwynt nis cafwyd mwyach yn y nef. A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hen sarff, yr hon a elwir Diafol a Satan, yr hwn sydd yn twyllo’r holl fyd: efe a fwriwyd allan i’r ddaear, a’i angylion a fwriwyd allan gydag ef. 10 Ac mi a glywais lef uchel yn dywedyd yn y nef, Yr awron y daeth iachawdwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i’r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy gerbron ein Duw ni ddydd a nos. 11 A hwy a’i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt; ac ni charasant eu heinioes hyd angau. 12 Oherwydd hyn llawenhewch, y nefoedd, a’r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, a’r môr! canys y diafol a ddisgynnodd atoch chwi, a chanddo lid mawr, oherwydd ei fod yn gwybod nad oes iddo ond ychydig amser. 13 A phan welodd y ddraig ei bwrw i’r ddaear, hi a erlidiodd y wraig a esgorasai ar y mab. 14 A rhoddwyd i’r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr ehedai hi i’r diffeithwch, i’w lle ei hun; lle yr ydys yn ei maethu hi yno dros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarff. 15 A’r sarff a fwriodd allan o’i safn, ar ôl y wraig, ddwfr megis afon, fel y gwnâi ei dwyn hi ymaith gyda’r afon. 16 A’r ddaear a gynorthwyodd y wraig; a’r ddaear a agorodd ei genau, ac a lyncodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o’i safn. 17 A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfel â’r lleill o’i had hi, y rhai sydd yn cadw gorchmynion Duw, ac sydd â thystiolaeth Iesu Grist ganddynt.