Add parallel Print Page Options

Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear. Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw. Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant. Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd‐dod, yr hon sydd eilun‐addoliaeth: O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod: Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt. Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o’ch genau. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â’i weithredoedd; 10 A gwisgo’r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef: 11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth. 12 Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros; 13 Gan gyd‐ddwyn â’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau. 14 Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. 15 A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar. 16 Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd. 17 A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef. 18 Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd. 19 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt. 20 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda. 21 Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont. 22 Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw: 23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o’r galon, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion; 24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu. 25 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.