Caniad Solomon 6
Beibl William Morgan
6 I ba le yr aeth dy anwylyd, y decaf o’r gwragedd? i ba le y trodd dy anwylyd? fel y ceisiom ef gyda thi. 2 Fy anwylyd a aeth i waered i’w ardd, i welyau y perlysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasglu lili. 3 Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a’m hanwylyd yn eiddof finnau, yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili.
4 Teg ydwyt ti, fy anwylyd, megis Tirsa, gweddus megis Jerwsalem, ofnadwy megis llu banerog. 5 Tro dy lygaid oddi wrthyf, canys hwy a’m gorchfygasant: dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead. 6 Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o’r olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddiepil yn eu mysg. 7 Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad. 8 Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi. 9 Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a’i hesgorodd: y merched a’i gwelsant, ac a’i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a’r gordderchwragedd, a hwy a’i canmolasant hi.
10 Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog? 11 Euthum i waered i’r ardd gnau, i edrych am ffrwythydd y dyffryn, i weled a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau. 12 Heb wybod i mi y’m gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib. 13 Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.