Caniad Solomon 1
Beibl William Morgan
1 Can y caniadau, eiddo Solomon. 2 Cusaned fi â chusanau ei fin: canys gwell yw dy gariad na gwin. 3 Oherwydd arogl dy ennaint daionus, ennaint tywalltedig yw dy enw: am hynny y llancesau a’th garant. 4 Tyn fi, ni a redwn ar dy ôl. Y brenin a’m dug i i’w ystafellau: ni a ymhyfrydwn ac a ymlawenhawn ynot; ni a gofiwn dy gariad yn fwy na gwin: y rhai uniawn sydd yn dy garu. 5 Du ydwyf fi, ond hawddgar, merched Jerwsalem, fel pebyll Cedar, fel llenni Solomon. 6 Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i’r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun nis cedwais. 7 Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion?
8 Oni wyddost ti, y decaf o’r gwragedd, dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd, a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid. 9 I’r meirch yng ngherbydau Pharo y’th gyffelybais, fy anwylyd. 10 Hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a’th wddf gan gadwyni. 11 Tlysau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.
12 Tra yw y brenin ar ei fwrdd, fy nardus i a rydd ei arogl. 13 Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr; rhwng fy mronnau yr erys dros nos. 14 Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi, yng ngwinllannoedd Engedi. 15 Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; y mae i ti lygaid colomennod. 16 Wele di, fy anwylyd, yn deg, ac yn hawddgar; ein gwely hefyd sydd iraidd. 17 Swmerau ein tai sydd gedrwydd; ein distiau sydd ffynidwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.