Añadir traducción en paralelo Imprimir Opciones de la página

17 Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead.

18 A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera; ac a ddywedodd wrtho, Tro i mewn, fy arglwydd, tro i mewn ataf fi; nac ofna. Yna efe a drodd ati i’r babell, a hi a’i gorchuddiodd ef â gwrthban. 19 Ac efe a ddywedodd wrthi, Dioda fi, atolwg, ag ychydig ddwfr; canys sychedig wyf. Yna hi a agorodd gunnog o laeth, ac a’i diododd ef, ac a’i gorchuddiodd. 20 Dywedodd hefyd wrthi, Saf wrth ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, A oes yma neb? yna dywed dithau, Nac oes. 21 Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o’r babell, ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a’i gwthiodd i’r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig; ac felly y bu efe farw. 22 Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jael a aeth i’w gyfarfod ef; ac a ddywedodd wrtho, Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn ati; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a’r hoel yn ei arlais.

Read full chapter

Yn nyddiau Samgar mab Anath, yn nyddiau Jael, y llwybrau a aeth yn anhygyrch, a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion.

Read full chapter

24 Bendithier Jael, gwraig Heber y Cenead, goruwch gwragedd; bendithier hi goruwch gwragedd yn y babell. 25 Dwfr a geisiodd efe, llaeth a roddes hithau: mewn ffiol ardderchog y dug hi ymenyn. 26 Ei llaw a estynnodd hi at yr hoel, a’i llaw ddeau at forthwyl y gweithwyr: a hi a bwyodd Sisera, ac a dorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef. 27 Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymodd, yno y syrthiodd yn farw.

Read full chapter