Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Welcome to the new Bible Gateway. Take a quick tour and see what’s new.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Read Scripture without ads. Try Bible Gateway Plus.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Barnwyr 18  Beibl William Morgan

18 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel: ac yn y dyddiau hynny llwyth y Daniaid oedd yn ceisio iddynt etifeddiaeth i drigo; canys ni syrthiasai iddynt hyd y dydd hwnnw etifeddiaeth ymysg llwythau Israel. 2 A meibion Dan a anfonasant o’u tylwyth bump o wŷr o’u bro, gwŷr grymus, o Sora, ac o Estaol, i ysbïo’r wlad, ac i’w chwilio; ac a ddywedasant wrthynt, Ewch, chwiliwch y wlad. A phan ddaethant i fynydd Effraim i dŷ Mica, hwy a letyasant yno. 3 Pan oeddynt hwy wrth dŷ Mica, hwy a adnabuant lais y gŵr ieuanc y Lefiad; ac a droesant yno, ac a ddywedasant wrtho, Pwy a’th ddug di yma? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur yma? a pheth sydd i ti yma? 4 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn ac fel hyn y gwnaeth Mica i mi; ac efe a’m cyflogodd i, a’i offeiriad ef ydwyf fi. 5 A hwy a ddywedasant wrtho ef, Ymgynghora, atolwg, â Duw, fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni. 6 A’r offeiriad a ddywedodd wrthynt, Ewch mewn heddwch: gerbron yr Arglwydd y mae eich ffordd chwi, yr hon a gerddwch.

7 Yna y pumwr a aethant ymaith, ac a ddaethant i Lais; ac a welsant y bobl oedd ynddi yn trigo mewn diogelwch, yn ôl arfer y Sidoniaid, yn llonydd ac yn ddiofal; ac nid oedd swyddwr yn y wlad, yr hwn a allai eu gyrru hwynt i gywilydd mewn dim: a phell oeddynt oddi wrth y Sidoniaid, ac heb negesau rhyngddynt a neb. 8 A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sora ac Estaol. A’u brodyr a ddywedasant wrthynt, Beth a ddywedwch chwi? 9 Hwythau a ddywedasant, Cyfodwch, ac awn i fyny arnynt: canys gwelsom y wlad; ac wele, da iawn yw hi. Ai tewi yr ydych chwi? na ddiogwch fyned, i ddyfod i mewn i feddiannu’r wlad. 10 Pan eloch, chwi a ddeuwch at bobl ddiofal, a gwlad eang: canys Duw a’i rhoddodd hi yn eich llaw chwi: sef lle nid oes ynddo eisiau dim a’r y sydd ar y ddaear.

11 Ac fe aeth oddi yno, o dylwyth y Daniaid, o Sora ac o Estaol, chwe channwr, wedi ymwregysu ag arfau rhyfel. 12 A hwy a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Ciriath‐jearim, yn Jwda: am hynny y galwasant y fan honno Mahane-Dan, hyd y dydd hwn: wele, y mae o’r tu ôl i Ciriath‐jearim. 13 A hwy a aethant oddi yno i fynydd Effraim, ac a ddaethant hyd dŷ Mica.

14 A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio gwlad Lais, a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn effod a theraffim, a delw gerfiedig, a thoddedig? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch. 15 A hwy a droesant tuag yno; ac a ddaethant hyd dŷ y gŵr ieuanc y Lefiad, i dŷ Mica; ac a gyfarchasant well iddo. 16 A’r chwe channwr, y rhai oedd wedi eu gwregysu ag arfau rhyfel, oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, sef y rhai oedd o feibion Dan. 17 A’r pumwr, y rhai a aethent i chwilio’r wlad, a esgynasant, ac a aethant i mewn yno; ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, a’r effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig: a’r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyda’r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel. 18 A’r rhai hyn a aethant i dŷ Mica, ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw doddedig. Yna yr offeiriad a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei wneuthur? 19 Hwythau a ddywedasant wrtho, Taw â sôn; gosod dy law ar dy safn, a thyred gyda ni, a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad: ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gŵr, na’th fod yn offeiriad i lwyth ac i deulu yn Israel? 20 A da fu gan galon yr offeiriad; ac efe a gymerth yr effod, a’r teraffim, a’r ddelw gerfiedig, ac a aeth ymysg y bobl. 21 A hwy a droesant, ac a aethant ymaith; ac a osodasant y plant, a’r anifeiliaid, a’r clud, o’u blaen.

22 A phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dŷ Mica, y gwŷr oedd yn y tai wrth dŷ Mica a ymgasglasant, ac a erlidiasant feibion Dan. 23 A hwy a waeddasant ar feibion Dan. Hwythau a droesant eu hwynebau, ac a ddywedasant wrth Mica, Beth a ddarfu i ti, pan wyt yn dyfod â’r fath fintai? 24 Yntau a ddywedodd, Fy nuwiau, y rhai a wneuthum i, a ddygasoch chwi ymaith, a’r offeiriad, ac a aethoch i ffordd: a pheth sydd gennyf fi mwyach? a pha beth yw hyn a ddywedwch wrthyf, Beth a ddarfu i ti? 25 A meibion Dan a ddywedasant wrtho, Na ad glywed dy lef yn ein mysg ni; rhag i wŷr dicllon ruthro arnat ti, a cholli ohonot dy einioes, ac einioes dy deulu. 26 A meibion Dan a aethant i’w ffordd. A phan welodd Mica eu bod hwy yn gryfach nag ef, efe a drodd, ac a ddychwelodd i’w dŷ. 27 A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica, a’r offeiriad oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Lais, at bobl lonydd a diofal; ac a’u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a losgasant y ddinas â thân. 28 Ac nid oedd waredydd; canys pell oedd hi oddi wrth Sidon, ac nid oedd negesau rhyngddynt a neb; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Beth‐rehob: a hwy a adeiladasant ddinas, ac a drigasant ynddi. 29 A hwy a alwasant enw y ddinas Dan, yn ôl enw Dan eu tad, yr hwn a anesid i Israel: er hynny Lais oedd enw y ddinas ar y cyntaf.

30 A meibion Dan a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig: a Jonathan mab Gerson, mab Manasse, efe a’i feibion, fuant offeiriaid i lwyth Dan hyd ddydd caethgludiad y wlad. 31 A hwy a osodasant i fyny iddynt y ddelw gerfiedig a wnaethai Mica, yr holl ddyddiau y bu tŷ Dduw yn Seilo.

Next
Barnwyr 17
Barnwyr 19
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway