Add parallel Print Page Options

Geiriau Amos, (yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa,) y rhai a welodd efe am Israel, yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn. Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd tair o anwireddau Damascus, ac oherwydd pedair, ni throaf ymaith ei chosb hi: am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn. Ond anfonaf dân i dŷ Hasael, ac efe a ddifa balasau Benhadad. Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen, a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr Arglwydd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i’w rhoddi i fyny i Edom. Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi. A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr Arglwydd Dduw.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol. 10 Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.

11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf, a llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol. 12 Eithr anfonaf dân i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra.

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau. 14 Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba, ac efe a ddifa ei phalasau, gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel, gyda thymestl ar ddydd corwynt. 15 A’u brenin a â yn gaeth, efe a’i benaethiaid ynghyd, medd yr Arglwydd.