Actau 18:2
Beibl William Morgan
2 Ac wedi iddo gael rhyw Iddew a’i enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi dyfod yn hwyr o’r Ital, a’i wraig Priscila, (am orchymyn o Claudius i’r Iddewon oll fyned allan o Rufain,) efe a ddaeth atynt.
Read full chapter
Actau 18:18-19
Beibl William Morgan
18 Eithr Paul, wedi aros eto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i’r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscila ac Acwila; gwedi iddo gneifio ei ben yn Cenchrea: canys yr oedd arno adduned. 19 Ac efe a ddaeth i Effesus, ac a’u gadawodd hwynt yno; eithr efe a aeth i’r synagog, ac a ymresymodd â’r Iddewon.
Read full chapter
Actau 18:26
Beibl William Morgan
26 A hwn a ddechreuodd lefaru yn hy yn y synagog: a phan glybu Acwila a Phriscila, hwy a’i cymerasant ef atynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach.
Read full chapter
Rhufeiniaid 16:3-4
Beibl William Morgan
3 Anerchwch Priscila ac Acwila, fy nghyd‐weithwyr yng Nghrist Iesu; 4 Y rhai dros fy mywyd i a ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr: i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl eglwysydd y Cenhedloedd.
Read full chapter
1 Corinthiaid 16:19
Beibl William Morgan
19 Y mae eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Acwila a Phriscila, gyda’r eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd yn fynych.
Read full chapter
2 Timotheus 4:19
Beibl William Morgan
19 Annerch Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus.
Read full chapterWilliam Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.