Add parallel Print Page Options

Ac fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, a blaenor y deml, a’r Sadwceaid, a ddaethant arnynt hwy; Yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu’r bobl, ac yn pregethu trwy’r Iesu yr atgyfodiad o feirw. A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a’u dodasant mewn dalfa hyd drannoeth: canys yr oedd hi yn awr yn hwyr. Eithr llawer o’r rhai a glywsant y gair a gredasant: a rhifedi’r gwŷr a wnaed ynghylch pum mil.

A digwyddodd drannoeth ddarfod i’w llywodraethwyr hwy, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, ymgynnull i Jerwsalem, Ac Annas yr archoffeiriad, a Chaiaffas, ac Ioan, ac Alexander, a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad. Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynasant, Trwy ba awdurdod, neu ym mha enw, y gwnaethoch chwi hyn? Yna Pedr, yn gyflawn o’r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Chwychwi benaethiaid y bobl, a henuriaid Israel, Od ydys yn ein holi ni heddiw am y weithred dda i’r dyn claf, sef pa wedd yr iachawyd ef; 10 Bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi. 11 Hwn yw’r maen a lyswyd gennych chwi’r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i’r gongl. 12 Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.

13 A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a’u hadwaenent, eu bod hwy gyda’r Iesu. 14 Ac wrth weled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i’w ddywedyd yn erbyn hynny. 15 Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o’r gynghorfa, hwy a ymgyngorasant â’i gilydd, 16 Gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i’r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hysbys i bawb a’r sydd yn preswylio yn Jerwsalem, ac nis gallwn ni ei wadu. 17 Eithr fel nas taener ymhellach ymhlith y bobl, gan fygwth bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn. 18 A hwy a’u galwasant hwynt, ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddysgent yn enw yr Iesu. 19 Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw gerbron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi. 20 Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom. 21 Eithr wedi eu bygwth ymhellach, hwy a’u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i’w cosbi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid. 22 Canys yr oedd y dyn uwchlaw deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o iechydwriaeth.

23 A hwythau, wedi eu gollwng ymaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasai’r archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt. 24 Hwythau pan glywsant, o un fryd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw’r Duw yr hwn a wnaethost y nef, a’r ddaear, a’r môr, ac oll sydd ynddynt; 25 Yr hwn trwy’r Ysbryd Glân, yng ngenau dy was Dafydd, a ddywedaist, Paham y terfysgodd y cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer? 26 Brenhinoedd y ddaear a safasant i fyny, a’r llywodraethwyr a ymgasglasant ynghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef. 27 Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynullodd yn erbyn dy Sanct Fab Iesu, yr hwn a eneiniaist ti, Herod a Phontius Peilat, gyda’r Cenhedloedd, a phobl Israel, 28 I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a’th gyngor di eu gwneuthur. 29 Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniatâ i’th weision draethu dy air di gyda phob hyfder; 30 Trwy estyn ohonot dy law i iacháu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Fab Iesu.

31 Ac wedi iddynt weddïo, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a hwy a lanwyd oll o’r Ysbryd Glân, a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus. 32 A lliaws y rhai a gredasant oedd o un galon, ac un enaid; ac ni ddywedodd neb ohonynt fod dim a’r a feddai yn eiddo ei hunan, eithr yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin. 33 A’r apostolion trwy nerth mawr a roddasant dystiolaeth o atgyfodiad yr Arglwydd Iesu: a gras mawr oedd arnynt hwy oll. 34 Canys nid oedd un anghenus yn eu plith hwy: oblegid cynifer ag oedd berchen tiroedd neu dai, a’u gwerthasant, ac a ddygasant werth y pethau a werthasid, 35 Ac a’u gosodasant wrth draed yr apostolion: a rhannwyd i bob un megis yr oedd yr angen arno. 36 A Joseff, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (yr hyn o’i gyfieithu yw, Mab diddanwch,) yn Lefiad, ac yn Gypriad o genedl, 37 A thir ganddo, a’i gwerthodd, ac a ddug yr arian, ac a’i gosododd wrth draed yr apostolion.