Font Size
2 Samuel 3:1-6
Beibl William Morgan
2 Samuel 3:1-6
Beibl William Morgan
3 A bu ryfel hir rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd: a Dafydd oedd yn myned gryfach gryfach, ond tŷ Saul oedd yn myned wannach wannach.
2 A meibion a anwyd i Dafydd yn Hebron: a’i gyntaf‐anedig ef oedd Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; 3 A’i ail fab oedd Chileab, o Abigail gwraig Nabal y Carmeliad; a’r trydydd, Absalom, mab Maacha ferch Talmai brenin Gesur; 4 A’r pedwerydd, Adoneia, mab Haggith; a’r pumed, Seffatia, mab Abital: 5 A’r chweched, Ithream, o Egla gwraig Dafydd. Y rhai hyn a anwyd i Dafydd yn Hebron.
6 A thra yr ydoedd rhyfel rhwng tŷ Saul a thŷ Dafydd, yr oedd Abner yn ymegnïo dros dŷ Saul.
Read full chapter
Beibl William Morgan (BWM)
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.