Add parallel Print Page Options

16 Ac wedi myned o Dafydd ychydig dros ben y bryn, wele Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod ef â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo, ac arnynt hwy yr oedd dau can torth o fara, a chan swp o resinau, a chant o ffrwythydd haf, a chostrelaid o win. A dywedodd y brenin wrth Siba, Beth yw y rhai hyn sydd gennyt? A Siba a ddywedodd, Asynnod i dylwyth y brenin i farchogaeth, a bara a ffrwythydd haf i’r llanciau i’w bwyta, a gwin i’r lluddedig i’w yfed yn yr anialwch, ydynt hwy. A’r brenin a ddywedodd, A pha le y mae mab dy feistr? A Siba a ddywedodd wrth y brenin, Wele, y mae efe yn aros yn Jerwsalem: canys efe a ddywedodd, Tŷ Israel a roddant drachefn i mi heddiw frenhiniaeth fy nhad. Yna y dywedodd y brenin wrth Siba, Wele, eiddot ti yr hyn oll oedd eiddo Meffiboseth. A Siba a ddywedodd, Yr ydwyf yn atolwg gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin.

A phan ddaeth y brenin Dafydd hyd Bahurim, wele un o dylwyth tŷ Saul yn dyfod allan oddi yno, a’i enw ef oedd Simei, mab Gera: efe a ddaeth allan, dan gerdded a melltigo. Ac efe a daflodd Dafydd â cherrig, a holl weision y brenin Dafydd: ac yr oedd yr holl bobl a’r holl gedyrn ar ei law ddeau ac ar ei law aswy ef. Ac fel hyn y dywedai Simei wrth felltithio; Tyred allan, tyred allan, ŵr gwaedlyd, a gŵr i’r fall. Yr Arglwydd a drodd arnat ti holl waed tŷ Saul, yr hwn y teyrnesaist yn ei le; a’r Arglwydd a roddodd y frenhiniaeth yn llaw Absalom dy fab: ac wele di wedi dy ddal yn dy ddrygioni; canys gŵr gwaedlyd wyt ti.

Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin, Paham y melltithia’r ci marw hwn fy arglwydd frenin? gad i mi fyned drosodd, atolwg, a thorri ei ben ef. 10 A’r brenin a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia? felly melltithied, oherwydd yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Melltithia Dafydd. Am hynny pwy a ddywed, Paham y gwnei fel hyn? 11 A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, ac wrth ei holl weision, Wele fy mab, yr hwn a ddaeth allan o’m hymysgaroedd i, yn ceisio fy einioes: ac yn awr pa faint mwy y cais y Benjaminiad hwn? Gadewch iddo, a melltithied: canys yr Arglwydd a archodd iddo. 12 Efallai yr edrych yr Arglwydd ar fy nghystudd i, ac y dyry yr Arglwydd i mi ddaioni am ei felltith ef y dydd hwn. 13 Ac fel yr oedd Dafydd a’i wŷr yn myned ar hyd y ffordd, Simei yntau oedd yn myned ar hyd ystlys y mynydd, ar ei gyfer ef; ac fel yr oedd efe yn myned, efe a felltithiai, ac a daflai gerrig, ac a fwriai lwch i’w erbyn ef. 14 A daeth y brenin, a’r holl bobl oedd gydag ef, yn lluddedig, ac a orffwysodd yno.

15 Ac Absalom a’r holl bobl, gwŷr Israel, a ddaethant i Jerwsalem, ac Ahitoffel gydag ef. 16 A phan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom, Husai a ddywedodd wrth Absalom, Byw fo’r brenin, byw fyddo’r brenin. 17 Ac Absalom a ddywedodd wrth Husai, Ai dyma dy garedigrwydd di i’th gyfaill? paham nad aethost ti gyda’th gyfaill? 18 A Husai a ddywedodd wrth Absalom, Nage; eithr yr hwn a ddewiso yr Arglwydd, a’r bobl yma, a holl wŷr Israel, eiddo ef fyddaf fi, a chydag ef yr arhosaf fi. 19 A phwy hefyd a wasanaethaf? onid gerbron ei fab ef? Megis y gwasanaethais gerbron dy dad di, felly y byddaf ger dy fron dithau.

20 Yna y dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, Moeswch eich cyngor beth a wnawn ni. 21 Ac Ahitoffel a ddywedodd wrth Absalom, Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad, y rhai a adawodd efe i gadw y tŷ: pan glywo holl Israel dy fod yn ffiaidd gan dy dad, yna y cryfheir llaw y rhai oll sydd gyda thi. 22 Felly y taenasant i Absalom babell ar nen y tŷ: ac Absalom a aeth i mewn at ordderchwragedd ei dad, yng ngŵydd holl Israel. 23 A chyngor Ahitoffel, yr hwn a gynghorai efe yn y dyddiau hynny, oedd fel ped ymofynnai un â gair Duw: felly yr oedd holl gyngor Ahitoffel, gyda Dafydd a chydag Absalom.